Abertawe 3–2 Burnley
Sgoriodd Fernando Llorente yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i Abertawe daro nôl i drechu Burnley ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Mae tîm Paul Clement bellach bump pwynt yn glir o dri isaf Uwch Gynghrair Lloegr diolch i gôl hwyr ddramatig y Sbaenwr.
Peniodd Llorente’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Leroy Fer wedi dim ond deuddeg munud.
Roedd Burnley’n ffodus iawn i fod yn gyfartal wedi ugain munud wrth i Andre Gray sgorio o’r smotyn yn dilyn camgymeriad gwael gan y dyfarnwr.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond rhwydodd Gray ei ail i roi’r ymwelwyr ar y blaen ar yr awr.
Doedd yr Elyrch ddim yn haeddu colli a wnaethon nhw ddim rhoi’r ffidl yn y to.
Roeddynt yn gyfartal ugain munud o’r diwedd diolch i ergyd gadarn Martin Olsson ac fe enillodd Llorente’r gêm i’w dîm yn hwyr gyda pheniad gwych arall o groesiad Tom Carroll y tro hwn.
Mae Abertawe’n aros yn yr unfed safle ar bymtheg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent bellach bump pwynt yn glir o’r tri isaf.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton (Rangel 89’), Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork, Carroll (Amat 90+5’), Narsingh (Ayew 73’), Llorente, Sigurdsson
Goliau: Llorente 12’, 90+2’, Olsson 69’
Cardiau Melyn: Fer 57’, Cork 85’
.
Burnley
Tîm: Robinson, Lowton, Keane, Mee, Ward, Boyd, Barton (Westwood 80’), Hendrick, Brady (Arfield 66’), Vokes (Tarkowski 80’), Gray
Goliau: Gray [c.o.s.] 20’, 61’
Cardiau Melyn: Ward 10’, Mee 54’
.
Torf: 20,679