Merched Cymru yng Nghyprus (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Mae tîm Pêl-droed Merched Cymru ar hyn o bryd yn Cyprus yn cymryd rhan ym mhencampwriaeth Cwpan Cyprus.

Mae Cymru yn Grŵp C ac wedi chwarae dwy gêm – curo Hwngari 2-0 ar Dddd Gŵyl Dewi 2-0 yn Paralimn, lle sgoriodd Helen Ward a Charlie Estcourt; a gêm gyfartal brynhawn Gwener (Mawrth 3) yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec.

Dywedodd Jess Fishlock, ar ôl y gêm:“ Yn amddiffynnol oedden yn gryf a ddangosasom ni bod ni’n dîm anodd ei guro.”

Mae Rheolwraig Cymru, Jane Ludlow, yn gobeithio bydd  y gystadleuaeth yn parhau’r gwelliant sydd wedi diffinio’i dwy flynedd yn y rôl.

“Gyda diffyg gemau cystadleuol yng nghalendr y merched mae Cwpan Cyprus yn allweddol i’r tîm, dim ond tua 60 diwrnod mae’r garfan a’i gilydd mewn blwyddyn ac mae llawer i’w neud yn y cyfnodau hyn,” meddai. “Mae’r merched wrth eu boddau  i fod yn rhan o’r garfan a chynrychioli  eu gwlad.”

Bydd Cymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn gêm olaf y grŵp ddydd Llun (Mawerth 6) gyda’r gemau terfynol yn cael eu chwarae ddydd Mercher nesa’ (Mawrth 8).

Mae Hwngari yn rhif 40 ymysg detholion y byd, a Chymru yn y 36ain safle, gydag Iwerddon yn 34 a’r Weriniaeth Tsiec yn 33… felly mae Cymru yng nghanol grŵp cystadleuol o wledydd.