Paul Clement
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi dweud wrth golwg360 nad yw’n beio’r golwr Lukasz Fabianski am y golled yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn diwethaf.
Roedd y sgôr yn gyfartal 1-1 ar yr hanner yn dilyn goliau gan y Sbaenwyr Fernando Llorente a Cesc Fabregas.
Daeth ail gôl Chelsea ar ôl 72 munud ar ôl i Lukasz Fabianski fethu â chlirio’r bêl, gan roi cyfle i Pedro roi’r Llundeinwyr ar y blaen.
Seliodd Diego Costa y fuddugoliaeth i Chelsea ar ôl 84 munud.
Ar ôl y gêm, dywedodd Lukasz Fabianski wrth y BBC: “Fy nghamgymeriad i oedd hwn.
“Dylwn i fod wedi ei dal hi neu ei gwthio hi i ffwrdd.
“Aeth y bêl o dan fy nghorff a dw i ar fai am y gôl.”
Ychwanegodd fod yr ail gôl “wedi lladd y gêm”.
Atebol
Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Paul Clement wrth golwg360 ei bod hi’n “bwysig” fod chwaraewyr yn atebol am eu perfformiadau.
Ond ychwanegodd nad yw’n beio’r golwr am y canlyniad.
“Rydych chi eisiau iddyn nhw fod yn atebol am eu perfformiad.
“Ro’n i’n gwybod yn syth pan aeth y bêl i mewn i’r rhwyd ac wrth weld ei ymateb y gallai e fod wedi’i harbed hi.”
Ychwanegodd bod hyfforddwr y golwyr, Tony Roberts wedi dweud wrtho fod Lukasz Fabianski wedi gwneud y penderfyniad anghywir wrth benderfynu a ddylai gasglu’r bêl neu ei gwthio hi i ffwrdd.
“Fe geisiodd e gasglu’r bêl a gwneud camgymeriad, ond roedd e wedi gwneud nifer o arbediadau da iawn cyn hynny, oedd fwy na thebyg yn fwy anodd na’r un aeth i mewn.
“Dw i ddim yn ei feio fe am y golled, fe wnaeth e nifer o arbediadau da ac ers i fi fod yma, mae e wedi bod yn dda iawn.
“Mae e wedi gwneud arbediadau yn ôl yr angen, mae e wedi dod allan i gasglu’r bêl sydd wedi cael ei chroesi yn ôl yr angen ac mae e’n gwneud yn iawn ar y cyfan.”
Fe fydd rhaid i’r golwr fod ar ei orau yfory yn erbyn ymosodwyr Burnley, sy’n cynnwys ymosodwr Cymru Sam Vokes, Andre Gray ac Ashley Barnes.