Paul Clement - cyfnod allweddol (Llun Golwg360)
Mae “cyfnod allweddol” o flaen tîm pêl-droed Abertawe, yn ôl y prif hyfforddwr Paul Clement.

Mae’r cyfnod hwnnw’n dechrau gyda gêm gartref yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn, ac fe fyddan nhw’n herio Hull, Bournemouth a Middlesbrough dros yr wythnosau i ddod – y cyfan yn dîmau sy’n cystadlu tua gwaelod yr Uwch Gynghrair.

Dim ond 12 pwynt sy’n gwahanu Burnley, sy’n unfed ar ddeg yn y tabl, a Sunderland sy’n isa’ a dim ond dau a thri phwynt o fantais sydd gan Abertawe dros Middlesborough a Hull.

Mae Bournemouth hefyd wedi bod yn colli tir ac yn cael eu sugno i’r frwydr i oroesi.

Canolbwyntio ar Burnley

‘Un gêm ar y tro’ fu neges Paul Clement ers iddo gael ei benodi’n olynydd i Bob Bradley ddechrau’r flwyddyn, ac mae’r gêm nesaf yn erbyn Burnley yn “bwysig iawn”, meddai.

“R’yn ni fel grŵp wedi bod yn trafod yr wythnos hon pa mor bwysig yw’r bloc nesaf o gêmau.

“Yn amlwg mae’r ffocws ar Burnley a dim pellach na hynny, ond r’yn ni’n gwybod beth sydd i ddod. Mae’n gyfnod allweddol i ni er mwyn osgoi diweddglo nerfus i’r tymor.

“Ein meddylfryd ni wrth fynd i mewn i’r gêm hon yw ei bod hi’n gêm sy’n rhaid ei hennill. Allwch chi ddim rheoli’r canlyniad, dim ond y perfformiad ond rhaid i’r meddylfryd ddweud fod hon yn gêm hollol hanfodol.”

Meddylfryd

Ers i Paul Clement gael ei benodi’n brif hyfforddwr, mae’r Elyrch wedi herio Arsenal, Lerpwl, Manchester City a Chelsea – gan ennill un ohonyn nhw’n unig, wrth guro Lerpwl o 3-2 yn Anfield.

Roedd y disgwyliadau ar gyfer y gemau hynny’n isel, ond mae’r pedair gêm nesaf yn rhai y mae’n rhaid i’r Elyrch eu hennill, yn ôl y prif hyfforddwr.

Yn ôl Paul Clement, mae’r tîm wedi perfformio’n well nag y byddai wedi ei ddisgwyl ar ôl cael ei benodi.

“Pan ddes i yma, roedd gyda ni 12 o bwyntiau ac roedden ni ar y gwaelod. Ond mae’r sefyllfa’n fwy gobeithiol o lawer erbyn hyn. Ry’n ni’n byw mewn gobaith nawr.”