Met Caerdydd sydd wedi ennill Cwpan Merched Cymru Llun: Met Caerdydd
Fe gurodd Merched Met Caerdydd Y Fenni 4-2 i godi Cwpan y Gynghrair ar Stadiwm Leckwith ddydd Sul yng Nghaerdydd.
Sgoriodd Jassie Vasconcelos ddwy gôl unigol yn erbyn ei chyn-glwb er gwaethaf chwarae rhan fwyaf o’r ail hanner gyda deg chwaraewr.
Ar ôl ennill 2-0 hanner amser roedden nhw un chwaraewr i lawr ar ôl i Stephanie Turner gael ail gerdyn melyn gyda hanner awr o’r gêm yn weddill.
Roedd rheolwraig Met, Kerry Harris, yn falch iawn o’r fuddugoliaeth: “Roedd y merched o dan bwysau yn yr ail hanner yn enwedig ar ôl i Stephanie gael ei hanfon o’r cae,” meddai wrth Golwg360.
“Rydan ni’n gweithio a chynllunio ar gyfer y senarios hyn, a sut i ddelio â nhw, mi weithiodd y tîm yn galed iawn, mi ddylsa nhw fod yn falch iawn.
“Mae’n grêt i gael ein dwylo ar y gwpan a’n sicr mae’n rhoi ni mewn hwyliau da am rownd gynderfynol Cwpan Cymdeithas Bêl droed Cymru ar Fawrth 12.
“Mi ddangosodd y tîm ddigon o angerdd gyda pherfformiad rhagorol yn erbyn tîm cryf o’r Fenni.”
Roedd Met wedi ennill y ddwy gêm yn gynharach yn y tymor rhwng y ddau dîm yng nghynghrair Orchard.