Clwb pel-droed Caernarfon (Llun: Paul Evans)
Ar ôl penwythnos cyffrous yn rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru dim ond un tîm o Gynghrair Huws Gray sydd drwodd i’r rownd gynderfynol.
Caernarfon sy’n cael y clod ar ôl curo Llanfair United i fynd drwodd i’w rownd gynderfynol gyntaf ers 29 mlynedd. Mi gurodd y Cofis 0-7 gyda pherfformiad anhygoel , yn enwedig ar ôl cofio fod Llanfair wedi curo’r Cofis 2-4 ar ddechrau’r tymor.
Mae’r Cofis rŵan yn wynebu Y Bala gyda’r dyddiad a lleoliad y gêm i’w penderfynu, gyda Chei Connah i wynebu’r Seintiau yn y gêm arall.
Mae Swyddog y Wasg y clwb, Paul Evans, yn edrych ymlaen at wynebu’r trydydd tîm o’r Uwchgynghrair: “Roedd dydd Sadwrn yn anhygoel, roedd y chwaraewyr yn ffantastig ,heb sôn am y cefnogwyr – dros 200 wedi teithio i’r canolbarth mewn tywydd erchyll. Perfformiad penigamp gan bawb.
“Mae’n rhaid cofio mai bron i saith mlynedd yn ôl bu bron i’r clwb ddiflannu oherwydd problemau oddi ar y cae – yn sicr rydan ni wedi dod yn bell.
“Rydan ni’n derbyn mai Y Bala bydd y ffefrynnau, ond ar ôl curo Caerfyrddin a’r Rhyl mae gennym siawns.”
Y Dinasyddion
Mi drechodd Y Bala Cegidfa 0-3 mewn perfformiad hollol broffesiynol. Roedd y Seintiau Newydd yn rhy gryf i Fangor yng Nghroesoswallt ,ond mi ddangosodd y Dinasyddion arwyddion eu bod nhw ar y trywydd iawn gan wthio’r Seintiau i amser ychwanegol.
Roedd Bangor yn gorfod ad-drefnu eu hamddiffyn oherwydd anaf i’w capten Paul Connolly, ond trobwynt y gêm oedd pan welodd Yalany Baio ail gerdyn melyn wnaeth arwain at gerdyn coch.
Ym Mhrestatyn y tîm o’r Uwchgynghrair, Cei Connah, enillodd y gêm ar ôl ciciau o’r smotyn gyda’r gêm yn 2-2 ar ôl 90 munud.
Mae’r gemau i’w chwarae ar benwythnos Ebrill 1 a’r ail mewn lleoliadau i’w cadarnhau.