Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn hyderus y gall ei dîm aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, er iddyn nhw golli o 3-1 yn erbyn ei gyn-glwb Chelsea yn Stamford Bridge brynhawn ddoe.

Roedd perfformiad yr Elyrch am rannau helaeth o’r gêm yn haeddu gwell na dod adre’n waglaw, ond roedd y Llundeinwyr sydd ar frig y tabl yn rhy gryf i’r tîm sy’n brwydro tua’r gwaelodion.

Aeth Chelsea ar y blaen drwy Cesc Fabregas yn yr hanner cyntaf, ond fe darodd ei gydwladwr Fernando Llorente yn ôl i unioni’r sgôr ar yr hanner.

Fe allai’r Elyrch fod wedi cael cic o’r smotyn ar ôl 68 munud wrth i Cesar Azpilicueta lawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Ond Chelsea aeth ar y blaen unwaith eto wrth i gamgymeriad prin gan y golwr dibynadwy Lukasz Fabianski agor y drws i Pedro.

Sicrhaodd Chelsea y fuddugoliaeth gyda gôl hwyr gan Diego Costa.

Amddiffyn cadarn

Ar ddiwedd y gêm, roedd Paul Clement yn barod i gydnabod amddiffyn cadarn ei dîm.

“Fe gawson ni fwy o gyfleoedd na ni a thipyn mwy o feddiant felly roedden nhw fwy na thebyg yn haeddu’r fuddugoliaeth.

“Ond fe wnaethon ni amddiffyn yn gadarn am gyfnodau hir ac fe wnaethon ni bethau’n anodd iddyn nhw.

“Ar yr hanner roedd hi’n gystadleuaeth, ac roedden ni’n gadarn wrth amddiffyn unwaith eto yn yr ail hanner.”

Y trobwynt, yn ôl Paul Clement, oedd yr apêl am gic o’r smotyn.

“Dw i ddim wedi siarad â’r dyfarnwr – dw i ddim yn meddwl fod llawer o ddiben gwneud – ond ro’n i’n meddwl ei fod e wedi gweld y peth yn glir.

“Yn fuan wedyn, sgorion nhw gôl feddal a daeth y drydedd diolch i safon Eden Hazard a Diego Costa.”

Er gwaetha’r canlyniad, mae Paul Clement yn dweud bod ei chwaraewyr yn hyderus wrth droi eu sylw at weddill y tymor.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd y perfformiad hwn yn niweidio’n hyder ni.

“Ry’n ni wedi cael gemau anodd oddi cartref ond ry’n ni hefyd wedi cael digon o ganlyniadau da.

“Nawr mae’n gyfnod hanfodol i ni. Ry’n ni’n herio Burnley gartre’ nesa’, sy’n gêm fawr i ni, ac yna mae’n rhaid i ni chwarae yn erbyn Hull, Bournemouth a Middlesbrough.”