Prestatyn 2–2 Cei Connah (Cei Connah’n ennill ar giciau o’r smotyn)     

Roedd angen ciciau o’r smotyn i setlo pethau ar Erddi Bastion nos Sadwrn wrth i Brestatyn groesawu Cei Connah yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru.

Dwy gôl yr un a oedd hi wedi naw deg munud ac felly hefyd wedi hanner awr ychwanegol. Ond Cei Connah fydd yn herio’r Seintiau Newydd yn rownd gynderfynol y Cwpan ar ôl ennill o bedair gôl i dair ar giciau o’r smotyn.

Hanner Cyntaf

Y tîm cartref a ddechreuodd orau ac roeddynt ar y blaen diolch i gôl unigol dda wedi chwe munud.

Adlamodd y bêl i Alec Williams ar ochr y cwrt cosbi, rheolodd hi ar ei fron gyda’i gyffyrddiad cytaf, curo’i ddyn gyda’i ail cyn anelu ergyd gywir i’r gornel isaf gyda’i drydydd.

Tarodd Mike Wilde y trawst i Gei Connah wedi hynny ond Prestatyn a oedd yn cael y gorau o’r gêm ar y cyfan.

Dylai Danny Harrison fod wedi cael ei anfon oddi ar y cae i Gei Connah am dacl fudr ond yn dilyn protestio taer gan ei gyd chwaraewyr fe ddangosodd y dyfarnwr gerdyn melyn iddo.

Wnaeth hynny ddim amharu gormod ar reolaeth Prestatyn a dyblodd Ben Maher y fantais ddau funud cyn troi wedi i James Stead a Reece Fairhurst gael eu hatal gan John Danby a’r trawst.

Ail Hanner

Roedd hi’n gêm wahanol wedi’r egwyl ac roedd mantais Prestatyn wedi ei haneru o fewn dau funud, Kai Edwards yn tynnu un yn ôl i’r Nomadiaid wedi cic rydd hir obeithiol Danby.

Cafodd James Owen gyfle da i unioni pethu toc wedi’r awr ond er iddo godi’r bêl dros Carl Jones, heibio’r postyn aeth hi.

Roedd safle dechrau anarferol Jones yn nodwedd gynyddol amlwg wrth i’r gêm fynd rhagddi a chafodd golwr Prestatyn ei ddal yn nhir neb eto wrth i Wes Baynes sgorio ail Cei Connah wyth munud o ddiwedd y naw deg.

Y tîm o’r Uwch Gynghrair oedd yn rheoli wedi hynny a chafodd Matty Williams gyfle i’w hennill hi yn yr eiliadau olaf ond tarodd ei gynnig y rhwyd ochr.

Amser Ychwanegol a Chiciau o’r Smotyn

Ymlaen a hwy i amser ychwanegol ac er i Gei Connah reoli’r hanner cyntaf, prin iawn a oedd cyfleoedd clir i sgorio.

Roedd Prestatyn yn well yn ail gyfnod ac roedd rhaid i Kai Edwards fod yn y lle iawn ar yr amser iawn i benio cynnig Jordan Davies oddi ar y llinell.

Doedd dim amdani ond ciciau o’r smotyn i setlo pethau felly. Tair gôl yr un oedd hi wedi’r ddeg gic gyntaf ond wedi i Jack Lewis anelu chweched cic Prestatyn heibio’r postyn fe sgoriodd Mike Wilde i’w hennill hi i Gei Connah.

Gêm yn erbyn y Seintiau Newydd sydd yn eu haros yn y rownd nesaf, gyda Chaernarfon yn herio’r Bala yn y gêm gynderfynol arall.

.

Prestatyn

Tîm: Jones, Kemp, Parker, Fairhurst, Lewis, Weaver (Shakleton 89’), Williams (Adam 96’), Stead, Edwards, Maher, Davies

Goliau: Williams 6’ Maher 43’

Cardiau Melyn: Fairhurst 72’, Weaver 84’, Parker 86’, Maher 100’

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Baynes, Disney, Edwards, Smith (Short 46’), Owen, Harrison, Morris (Owen 46’), Woolfe (Williams 75’), Wilde, Davies

Goliau: Edwards 47’, Baynes 82’

Cardiau Melyn: Smith 14’, Morris 14’, Harrison 26’, Edwards 30’, Davies 87’, Owen 109’

.

Torf: 401