Solihull Moors 0–1 Wrecsam               
                                         

Roedd un gôl yn ddigon i Wrecsam wrth iddynt guro Solihull Moors ar Barc Damson yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Antony Barry unig gôl y gêm o’r smotyn yn y munudau agoriadol.

Saith munud yn unig a oedd ar y cloc pan rwydodd Barry o ddeuddeg llath wedi i Kristian Green lawio croesiad Paul Rutherford.

Izale Mcleod a ddaeth agosaf at ddyblu mantais y Dreigiau ond tarodd ei gic rydd yn erbyn y trawst.

Roedd tasg Wrecsam yn un haws yn chwarter olaf y gêm wedi i Jack Byrne gael ei anfon oddi ar y cae i’r tîm cartref.

Ac er na wnaeth yr ymwelwyr ychwanegu at y sgôr wedi hynny roeddynt wedi gwneud digon i ennill y gêm.

Mae’r tri phwynt yn cadw’r Cymry yn ddegfed yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr.

.

Solihull Moors

Tîm: Baxter, Murombedzi, Daly, Green, Flanagan, Kettle, Byrne, White (Afolayan 62’), Carline, Nortley (Maye 62’), Charles-Cook (Sterling-James 62’)

Cerdyn Coch: Byrne 68’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Lund, Riley, Carrington, Barry (Smith 84’), Tilt, McLeod (White 72’), Rutherford (Evans 71’), Penn, Massanka, Shenton

Gôl: Barry [c.o.s.] 7’

Cardiau Melyn: Barry 69’, Riley 81’

.

Torf: 1,349