Caerdydd 2–2 Fulham    
                                                                   

Bu rhaid i Gaerdydd fodloni ar bwynt wrth i Fulham ymweld â Stadiwm y Ddinas yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Fe darodd yr Adar Gleision yn ôl gyda dwy gôl Kenneth Zohore wedi i Fulham fynd ar y blaen yn gynnar, ond yn ôl y daeth yr ymwelwyr gyda gôl Neeskens Kebano’n cipio pwynt iddynt.

Gwrthymosodiad chwim a arweiniodd at gôl agoriadol Fulham wedi ychydig dros chwarter awr o chwarae, Tom Cairney yn bwydo Stefan Johansen a’r gŵr o Norwy’n rhwydo.

Manteisiodd Zohore ar amddiffyn gwan i unioni i Gerdydd hanner ffordd trwy’r hanner ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Rhoddodd y gŵr o Ddenmarc y tîm cartref ar y blaen wedi deg munud o’r ail hanner gyda foli felys ac roedd y tri phwynt yn ymddangos yn debygol.

Ond nid felly y bu wrth i ergyd Neeskens Kebano wyro heibio i Allan McGregor a chropian i gefn y rhwyd.

Mae’r canlyniad yn cadw tîm Neil Warnock yn ddeuddegfed yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, Connolly, Morrison, Bamba, Richards, Noone (John 86’), Gunnarsson, Ralls, Harris, Hoilett, Zohore

Goliau: Zohore 24’, 56’

Cardiau Melyn: Gunnarsson 41’, Zohore 57’

.

Fulham

Tîm: Button, Fredericks, Kalas, Ream, Malone, McDonald, Johansen, Aluko, Cairney, Piazon (Kebano 25’), Ayite (Cyriac 65’)

Goliau: Johansen 17’, Kebano 68’

Cerdyn Melyn: Piazon 21’

.

Torf: 15,656