Chelsea 3–1 Abertawe   
                                                                  

Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt ymweld â Stamford Bridge i herio Chelsea yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n gyfartal ar yr egwyl diolch i gôl Fernando Llorente yn hwyr yn yr hanner cyntaf ond sgoriodd y tîm ar y brig ddwy waith i ennill y gêm yn yr ugain munud olaf.

Roedd Cesc Fabregas eisoes wedi dod yn agos at agor y sgorio cyn iddo wneud hynny wedi deunaw munud o chwarae, yn bwydo’r bêl trwy goesau Jack Cork.

Wnaeth Abertawe ddim cynnig llawer yn ymosodol yn yr hanner cyntaf ond roeddynt yn gyfartal wrth droi diolch i beniad Llorente o gic rydd Gylfi Sigurdsson yn eiliadau olaf yr hanner.

Fe ddylai’r Elyrch fod wedi cael cic o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner pan lawiodd Cesar Azpilicueta yn y cwrt cosbi ond chafodd hi ddim mo’i rhoi.

Ychydig funudau’n ddiweddarach roedd Chelsea ar y blaen wedi i Pedro wasgu ergyd o dan gorff Lukasz Fabianski yn dilyn rhediad da.

Dyblodd Diego Costa fantais y tîm cartref saith munud o ddiwedd y naw deg wedi gwaith da Eden Hazard ar yr asgell a doedd dim ffordd yn ôl i Abertawe wedi hynny.

Mae’r Elyrch yn aros yn y pymthegfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y golled gan i’r timau o’u cwmpas (Bornemouth a Middlesbrough) golli hefyd.

.

Chelsea

Tîm: Courtois, Azpilicueta, David Luiz, Cahill, Moses (Zouma 85’), Kante, Fabregas, Alonso, Pedro (Matic 76’), Diego Costa, Hazard (Willian 85’)

Goliau: Fabregas 19’, Pedro 72’, Diego Costa 84’

Cerdyn Melyn: David Luiz 75’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork, Carroll (Ayew 76’), Routledge (Narsingh 81’), Llorente, Sigurdsson

Gôl: Llorente 45+2’

Cardiau Melyn: Naughton 35’, Olsson 36’, Fer 80’

.

Torf: 41,612