Bydd Paul Clement yn dychwelyd i Stamford Bridge gydag Abertawe brynhawn dydd Sadwrn
Wrth i dîm pêl-droed Abertawe baratoi i herio Chelsea yn Stamford Bridge y prynhawn yma (3 o’r gloch), maen nhw wedi cael hwb gyda’r newyddion fod eu capten Leon Britton ar gael am y tro cyntaf ers i’r prif hyfforddwr newydd, Paul Clement gael ei benodi ddechrau’r flwyddyn.

Ac mae Paul Clement wedi dechrau sylweddoli maint y capten ar y tîm, ac yntau wedi bod yn un o’r hoelion wyth ers 14 o flynyddoedd.

Dywedodd y prif hyfforddwr: “Hyd yn oed yn y fforwm cefnogwyr, cododd rhywun ar ei draed a dweud “Mae gyda fi gwestiwn i ‘Leon Legend’!

“Do’n i ddim yn sylweddoli bod e wedi bod yma cyhyd. Mae e’n dipyn o ddyn ac yn hynod broffesiynol.

“Mae e’n gweithio’n galed ond mae e wedi cyrraedd yr oedran lle mae rhai o’r sesiynau hyfforddi’n anodd iddo fe ac mae’n cymryd cwpwl o ddiwrnodau i ddod drosti.

“Ond yn nhermau ei bersonoliaeth o amgylch y tîm, mae e o’r radd flaena’. Mae e’n ddylanwadol iawn yn yr ystafell newid fel un o’r chwaraewyr hŷn. Ond mae e’n gwneud hynny mewn ffordd barchus iawn. Dw i’n gwerthfawrogi hynny’n fawr.”

Fernando Llorente

Un arall sydd wedi dylanwadu’n fawr ar y tîm y tymor hwn yw’r ymosodwr Fernando Llorente.

Mae’r Sbaenwr wedi sgorio wyth gôl mewn 22 o gemau y tymor hwn, ac fe allai’n hawdd iawn fod wedi bod yng nghrys glas Chelsea y prynhawn yma ar ôl iddyn nhw geisio ei ddenu i Lundain cyn i’r ffenest drosglwyddo gau.

Ers hynny, mae e wedi sgorio goliau pwysig yn erbyn Lerpwl a Chaerlŷr – dwy fuddugoliaeth fwya’r tymor hwn i’r Elyrch.

Dywedodd Paul Clement: “Wnes i ofyn iddo fe os oedd e eisiau seibiant ddydd Sadwrn. Wel, tasech chi wedi gweld ei wyneb e…!

“Mae e wedi elwa o sesiynau hyfforddi caled, sgoriodd e gôl wych yn erbyn Lerpwl – un o ddwy gôl.

“Fe weithiodd e’n galed ar gyfer y ddwy gôl yn erbyn Caerlŷr hefyd, yn gyntaf gyda’r bêl a ddaeth i mewn, fe weithiodd e’n galed i’w hennill hi…. ac fe gawson ni gyfle i sgorio.

“Gyda’r llall, daeth y bêl i mewn iddo fe ac fe basiodd e nôl i Gylfi [Sigurdsson], ac fe darodd yntau’r bêl i [Martin] Olsson. Felly mae [Fernando Llorente] yn gwneud ei waith o ran cynorthwyo goliau hefyd.

“Mae e’n gymeriad mawr a chanddo fe dipyn o brofiad ar lefel uchel. A rhowch hi fel hyn, mae e’n barod iawn am y penwythnos!”

Y timau

Yn ogystal â’r newyddion da am Leon Britton, fe fydd yr asgellwr ymosodol Luciano Narsingh a’r ymosodwr Jordan Ayew ar gael i ddechrau gêm i’r Elyrch am y tro cyntaf.

O ran Chelsea, mae’r golwr Thibaut Courtois yn holliach unwaith eto, ac fe allai ddechrau yn y gôl y prynhawn yma.

Mae disgwyl hefyd i David Luiz a Marcos Alonso ddychwelyd i’r tîm ar ôl cael eu gadael allan o’r tîm i herio Wolves yng Nghwpan yr FA.

Ystadegau

O edrych ar gemau’r gorffennol rhwng y ddau dîm, mae’r ystadegau’n ffafrio Chelsea o bell ffordd.

Dim ond un fuddugoliaeth gafodd yr Elyrch yn eu herbyn nhw yn eu 11 gêm ddiwethaf yn yr Uwch Gynghrair – maen nhw wedi cael pedair gêm gyfartal a chwe cholled.

Eu canlyniad gorau dros y tymhorau diwethaf oedd gêm gyfartal 2-2 yn Stamford Bridge y tymor diwethaf, ond maen nhw wedi colli’r pedair gêm arall oddi cartref.

Serch hynny, maen nhw’n ddi-guro yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Chelsea, gydag un fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal.

Maen nhw’n wynebu talcen caled os ydyn nhw am guro tîm sydd wedi ennill 14 allan o 15 o gemau o dan reolaeth yr Eidalwr Antonio Conte.

Darllenwch hefyd:

Paul Clement a Claude Makélélé yn mynd yn ôl i Stamford Bridge

Does ond un Makélélé