Mae hi’n ddiwrnod mawr yng Nghwpan Cymru yfory wrth i Gegidfa groesawu’r Bala sydd yn yr ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru ac yn breuddwydio am gael chwarae yn Ewrop…

Cegidfa

Dyma’r ail dro i’r clwb o Sir Drefaldwyn gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y gwpan. Yn nhymor 2007/08 llwyddodd Cegidfa i guro tri chlwb o Uwch Gynghrair Cymru – Caernarfon, Airbus a Chei Conna. Daeth y siwrne i ben pan gollon nhw o 6-0 i Fangor o flaen torf o 450.

Eleni dan reolaeth Danny Barton llwyddodd Cegidfa i drechu’r Trallwng, Yr Wyddgrug, Maesglas a Met Caerdydd er mwyn cyrraedd rownd yr wyth olaf.

“Bydd gêm dydd Sadwrn yn sialens fawr i ni,” meddai Martin Roberts, Ysgrifennydd Gegidfa, wrth golwg360.  “Ers dyrchafiad Y Bala i’r Uwch Gynghrair, mae’r clwb o Faes Tegid wedi mynd o nerth i nerth tra mae Cegidfa wedi bwrw ‘mlaen i sefydlu ei hun fel yn o glybiau mwyaf cyson yng Nghynghrair Huws Gray.

“Oddi ar y cae, rydan wedi buddsoddi, trwy grantiau hael a chodi arian ein hunain, i symud i gae newydd ble chafwyd cyfle i ddatblygu’r cyfleusterau ar gyfer criteria’r Gynghrair. Pum mlynedd yn ôl adeiladwyd llifoleuadau ac eleni gosodwyd 160 o seddi  ychwanegol i ddod â chyfanswm capasiti’r stadiwm i 250.

“Bydd Danny Barton yn dewis ei dîm o blith carfan o 19 o chwaraewyr, gyda’r prif sgoriwr Adam Jenkins yn holliach. Yn yr amddiffyn cawn weld y pâr profiadol Robbie James a James Henderson, gyda’r capten Gareth Jones yng nghanol cae.

“Mae’r clwb yn edrych ymlaen at groesawu’r Bala i’r Canolbarth – mae gan y ddau glwb berthynas dda ers dyddiau’r  Bala yn yr Huws Gray, ac estynnwn groeso i Colin Caton a’i dîm.”

Y Bala

Mae’r  Bala yn ail yn y gynghrair ar hyn o bryd ac mae Swyddog y Wasg  y  clwb yn gobeithio am ddiweddglo da i’r tymor.

“Am y tro cyntaf ers blynyddoedd rydym wedi cael dwy gêm gartref y tymor hwn [yn y gwpan] yn erbyn Cil-y-Coed (Caldicot) a Phenybont o Gynghrair y De ac mae’r rhain – gyda phob parch i’r gwrthwynebwyr – wedi bod yn fuddugoliaethau cymharol gyfforddus i ni,” meddai Hannah Gwenllïan golwg360.

“Mi fyddwn ni i ffwrdd yn erbyn Cegidfa bnawn Sadwrn a bydd hi ddim yn gêm hawdd o gwbl. Maen’ nhw yn gwneud yn dda yn y Gynghrair ac wedi cael canlyniad gwych yn erbyn y Met yn y rownd ddiwethaf, felly mi fyddwn ni angen bod ar ein gorau.

“O brofiad o chwarae Cegidfa yn y ‘Cymru Alliance’, maen nhw’n dîm sydd yn hoffi ymosod ag yn gorfforol a dw i’n disgwyl brwydr yn eu herbyn. Aethon ni draw i’w gwylio nhw yn erbyn Penrhyncoch bythefnos yn ôl felly mae gennym syniad beth i’w ddisgwyl ganddyn nhw. Mae’r cae am fod yn drwm efo’r glaw sydd ar ei ffordd wythnos yma. Ond dw i’n meddwl fod chwarae i ffwrdd yng Nghaerfyrddin ar wair wythnos ddiwethaf wedi bod yn baratoad da at y gêm.

“Mae ein perfformiadau diwethaf wedi bod yn galonogol, sydd wedi gweld ni yn neidio i’r ail safle yn Uwch Gynghrair Cymru. Ond mae pawb yn gwybod mai ennill y Gwpan yw’r ffordd orau i fynd i mewn i Ewrop – ac am ein bod ni erioed wedi bod bellach na’r rownd gynderfynol, mi fuasai’n ffantastig i weld ni’n curo yn erbyn Cegidfa a gobeithio mynd ymhellach yn y Gwpan.”