Claudio Ranieri (soccer.ru CCA3.0)
Mae Cymro sy’n gyn-chwaraewr i Leicester City’n dweud y dylai’r clwb godi cerflun i’r rheolwr sydd newydd gael y sac ganddyn nhw.

Roedd Claudio Ranieri’n haeddu clod anferth am helpu’r clwb o Gaerlŷr i gipio Uwch Gynghrair Lloegr y llynedd, meddai Iwan Roberts.

Gyda’i sylwadau ar y BBC roedd cyn-ymosodwr rhyngwladol Cymru yn ymuno gydag enwogion eraill y clwb, fel Gary Lineker, sydd wedi condemnio’r penderfyniad i gael gwared ar Claudio Ranieri.

Y sac

Fe gafodd yr Eidalwr y sac dros nos ar ôl i’w dîm gael canlyniad eitha’ yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop – ond maen nhw wedi cael tymor trychinebus yn yr Uwch Gynghrair.

Er fod y tîm bron yr un peth â’r un a enillodd y bencampwriaeth y llynedd, maen nhw bellach o fewn un pwynt i’r safleoedd disgyn.

Pe bai hynny’n digwydd, dyma fyddai’r tro cynta’ ers bron 80 mlynedd i bencampwyr gwympo i’r gynghrair is.