Wayne Shaw yn bwyta pei nos Lun
Mae Wayne Shaw, gôl-geidwad clwb pêl-droed Sutton United, wedi gorfod ymddiswyddo wedi iddo fwyta pei yn ystod gêm bumed rownd Cwpan FA yn erbyn Arsenal nos Lun.

Cyfaddefodd yr eilydd 46 oed ei fod yn ymwybodol bod cwmni Sun Bets, a oedd hefyd yn noddi crysau tîm Sutton y noson honno, wedi cynnig bet 8-1 y byddai e’n bwyta ar y fainc yn ystod y gêm.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymchwiliadau annibynnol i’r mater, ac fe fydd y Comisiwn Gamblo hefyd yn cynnal ymchwiliad i geisio penderfynu a oedd cynnig y fath fet yn gyfreithlon o dan eu rheolau.

Ymddiswyddodd Wayne Shaw ddydd Mawrth yn dilyn y gêm nos Lun pan gollodd Sutton United 2-0 yn erbyn Arsenal.

Dim Pleser

“Mae Wayne wedi cynnig ei lythyr ymddiswyddo i’r cadeirydd y prynhawn yma ac mae wedi cael ei dderbyn. Dyma ddiwedd trist i stori oedd un yn dda dros ben,” meddai rheolwr Sutton United, Paul Doswell.

“Mae e mewn trallod, oedd e’n ddagreuol ar y ffôn y prynhawn yma. Does dim pleser, a ddaw yna ddim byd da, o’r sefyllfa hon. Camgymeriad digon onest, ond un sydd â goblygiadau eithaf trist.”