Casnewydd 1–1 Morecambe   
                                                      

Mae Casnewydd yn aros ar waelod yr Ail Adran ar ôl gêm gyfartal gartref yn erbyn Morecambe ar Rodney Parade nos Fawrth.

Casnewydd a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl gyda gôl Aaron Williams o waith creu Ryan Bird.

Yn ôl y daeth yr ymwelwyr yn yr ail hanner serch hynny ac roeddynt yn gyfartal toc wedi’r awr diolch i gic rydd Michael Rose wedi trosedd Michael Flynn ar Paul Mullin.

Mae’r pwynt yn cadw Casnewydd ar waelod tabl yr Ail Adran, chwe phwynt i ffwrdd o ddiogelwch yr ail safle ar hugain.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Pipe, O’Brien (Owen-Evans 71’), Flynn, Butler, Samuel, Reid (Jackson 90+1’), Rose, Demetriou, Williams (Gordon 80’), Bird

Gôl: Williams 18’

Cerdyn Melyn: O’Bien 62’

.

Morecambe

Tîm: Roche, Wakefield, Edwards, Whitmore, Conlan (Molyneux 83’), Fleming, Rose, Turner, Wildig (Evans 83’), Ellison, Mullin (McGowan 71’)

Gôl: Rose 64’

.

Torf: 1,988