Ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Gatalwnia (Llun: Berta Gelabert Vilà)
Mae’r cyn-chwaraewr pêl-droed Alfonso Perez wedi dweud na ddylai amddiffynnwr Sbaen, Gerard Pique barhau i gynrychioli’r wlad am ei fod yn cefnogi’r ymgyrch annibyniaeth yng Nghatalwnia.

Chwaraeodd Alfonso Perez dros Real Madrid a Barcelona yn ystod ei yrfa, ac mae’n gwrthwynebu ymdrechion Catalwnia i ennill annibyniaeth.

Mae Gerard Pique, fodd bynnag, wedi dangos ei ochr sawl gwaith yn ystod ei yrfa, gan gynnwys torri baner Sbaen oddi ar ddillad yn y gorffennol, a datgan yn gyhoeddus ei fod o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.

Mae’n bwriadu ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd 2018, ond yn ôl gwefan Goal.com, mae Alfonso Perez yn awyddus i’w weld yn ymddeol ar unwaith.

Dywedodd Alfonso Perez wrth y papur newydd Marca: “Dw i ddim yn erbyn y Catalaniaid. Cafodd fy mab ei eni yn Barcelona a phe bawn i’n radical, fe fyddai wedi cael ei eni ym Madrid neu Sevilla.

“Does gen i ddim gwrthwynebiad i Gatalaniaid, ond dw i’n gwrthwynebu’r rheiny sy’n galw am annibyniaeth.

“Mae Pique yn yr un sefyllfa â [Pep] Guardiola. Yr hyn sy’n digwydd yw ei fod e’n chwarae ar hyn o bryd a phan ddaw’r eiliad, fe fydd e’r un mor radical â Pep Guardiola.

“Mae e wedi ei osod ei hun yng nghanol annibyniaeth i Gatalwnia.”

Er bod Pep Guardiola, rheolwr Man City erbyn hyn, wedi ennill 47 o gapiau dros Sbaen, fe gynrychiolodd Gatalwnia mewn saith gêm answyddogol.