Gareth Bale (Llun: Manu Fernandez/AP)
Sgoriodd Gareth Bale gôl yn ei gêm gyntaf ers tri mis neithiwr, wrth i Real Madrid guro Espanyol o 2-0 yn y Bernabeu yn La Liga.

Dydy’r Cymro ddim wedi chwarae ers iddo anafu ei ffêr yn ystod y gêm yn erbyn Sporting Lisbon yng Nghynghrair y Pencampwyr ar Dachwedd 22.

Fe gafodd lawdriniaeth ar ei ffêr, ac roedd wedi gobeithio bod yn holliach ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fis nesaf.

Fe ddaeth i’r cae fel eilydd gydag 20 munud o’r gêm yn wedddill, ac fe ergydiodd yn dilyn pàs gan Isco o’r asgell chwith.

Roedd peniad gan Alvaro Morata eisoes wedi rhoi Real Madrid ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Maen nhw bedwar pwynt ar y blaen i Barcelona ar frig tabl La Liga.