Mae tîm pêl-droed Lincoln wedi sicrhau un o’r canlyniadau gorau yn hanes Cwpan FA Lloegr, wrth iddyn nhw guro Burnley o’r Uwch Gynghrair o 1-0.

Mae’r canlyniad yn golygu mai Lincoln yw’r tîm cyntaf o’r tu allan i’r Gynghrair Bêl-droed i gyrraedd yr wyth olaf ers 1914.

Sean Raggett sgoriodd y gôl dyngedfennol ar ôl 88 munud.

Maen nhw wedi efelychu camp QPR yn 1914, er bod strwythur y gystadleuaeth wedi cael ei newid yn 1925.

Hyd yma, mae Lincoln wedi curo Burnley, Ipswich a Brighton ar ei ffordd i’r wyth olaf.