Cytundeb newydd oedd gwobr rheolwr Wrecsam, Dean Keates yr wythnos hon am rediad di-guro ei dîm o chwe gêm.

Fe fydd e’n aros ar y Cae Ras am dair blynedd a hanner.

Mae Khaellem Bailey-Nicholls ar gael ar ôl cyfnod ar fenthyg yn Sutton Coldfield.

Yng ngharfan y Saeson, mae’r amddiffynnwr Nick Arnold yn holliach.