Mae Casnewydd yn teithio i Gaergrawnt y prynhawn yma wrth iddyn nhw anelu i ymestyn eu rhediad di-guro i saith gêm yn yr Adran Gyntaf.

Ond mae’r Cymry’n dal ar waelod y tabl ar 25 o bwyntiau.

Mae’n bosib y bydd y capten Scot Bennett a Sean Rigg yn holliach.

Mae Greg Taylor a Leon Davies wedi’u hanafu, ond fe fydd Barry Corr, sydd wedi bod allan ers 14 mis ag anaf i’w ben-glin, ar y fainc i’r Saeson unwaith eto.