Mae’r Adar Gleision yn mynd am drydedd buddugoliaeth o’r bron y prynhawn yma wrth iddyn nhw groesawu Rotherham i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd y Cymry heb yr ymosodwr Rickie Lambert ar gyfer y gêm yn y Bencampwriaeth oherwydd anaf i’w gefn.

Ond mae newyddion gwell o ran Greg Halford a Sean Morrison, sydd wedi gwella o anafiadau.

Mae dau o chwaraewyr Caerdydd, Tom Adeyemi a Semi Ajayi ar fenthyg yn Rotherham, ond dydyn nhw ddim yn gymwys ar gyfer y gêm o ganlyniad.

Fe allai’r amddiffynnwr o Sweden, Joel Ekstrand chwarae ei gêm gyntaf i’r ymwelwyr, sydd mewn dyfroedd dyfnion ar waelod y tabl.

Mae anafiadau yn cadw Aymen Belaid, Darnell Fisher a Carlton Morris allan o’r gêm.

Ystadegau

Mae Caerdydd yn ddi-guro yn eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Rotherham, a dim ond unwaith mae’r Saeson wedi ennill yn eu naw cyfarfod diwethaf â’r Adar Gleision yn y gynghrair.

Dim ond tair buddugoliaeth gafodd Rotherham yn eu 28 gêm gynghrair diwethaf, a phob un ar eu tomen eu hunain.

A dydy Rotherham ddim wedi ennill oddi cartref yn eu 18 gêm diwethaf – byddai un golled arall yn sicrhau eu rhediad gwaethaf yn y gynghrair ers mis Hydref 1978.

Mae’r gic gyntaf am 3 o’r gloch.