Casnewydd 0–0 Grimsby                      
                                           

Ymestynnodd Casnewydd eu rhediad heb golli i chwe gêm gyda gêm gyfartal ddi sgôr gartref yn erbyn Grimsby ar Rodney Parade nos Fawrth.

Ond mae’r tîm o Gymru’n aros ar waelod tabl yr Ail Adran er gwaethaf eu pwynt diweddaraf.

Grimsby a Danny Andrew a ddaeth agosaf at sgorio mewn gêm a oedd yn brin o gyffro o flaen gôl ond taro’r trawst a wnaeth ei gic rydd ef yn yr hanner cyntaf.

Mae’r Alltudion yn aros ar waelod y tabl ac yn colli tir ar Leyton Orient yn y trydydd safle ar hugain yn dilyn eu buddugoliaeth hwy oddi cartref yn Plymouth.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Nelson (Williams 88’), Jones, O’Brien, Pipe, Rose, Flynn, Butler, sheehan (Gordon 75’), Bird, Reid (Samuel 64’)

Cerdyn Melyn: Jones 72’

.

Grimsby

Tîm: McKeown, Pearson, Gunning, Collins, Mills, Jones, Disley, Andrew, Bolarinwa, Asante (Yussuf 63’), Dyson (Vernon 64’)

Cardiau Melyn: Collins 7’, Dyson 19’, Yussuf 72’, Gunning 77’

.

Torf: 1,868