Derby 3–4 Caerdydd                
                                                          

Cododd Caerdydd i hanner uchaf y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Derby yn Pride Park nos Fawrth.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda dwy gôl gynnar cyn i Gaerdydd daro nôl a mynd ar y blaen toc cyn yr awr. Unionodd Bent i Derby wedi hynny cyn i Ralls gipio’r tri phwynt i’r Adar Gleision gyda chic o’r smotyn yn y munud olaf.

Saith munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Julien de Sart Darby ar y blaen cyn i Darren Bent ddyblu’r fantais wedi gwaith creu Tom Ince.

Tynodd Kadeem Harris un yn ôl i’r ymwelwyr o Gymru cyn unioni’r sgôr gyda’i ail ddau funud wedi’r egwyl.

Rhoddodd Craig Noone Gaerdydd ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gydag ergyd dda toc cyn yr awr ond roedd Derby yn gyfartal eto chwarter awr o’r diwedd diolch i beniad Bent o groesiad Markus Olsson.

Yna, ym munud olaf y naw deg, ildiodd Alex Pearce gic o’r smotyn am drosedd ar Rhys Healey a chipiodd Joe Ralls y tri phwynt i’w dîm trwy guro Scott Carson o ddeuddeg llath.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r deuddegfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Derby

Tîm: Carson, Baird (Russell 66’), Keogh, Pearce, Olsson, Hughes (Nugent 66’), de Sart, Butterfield (Blackman 90+2’), Ince, Bent, Anya

Goliau: de Sart 7’, Bent 17’, 74’

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, Connolly, Morrison, Bamba, Richards, Halford (Healey 80’), Noone (Hoilett 85’), Gunnarsson, Ralls, Harris (John 89’), Zohore

Goliau: Harris 41’, 47’, Noone 57’, Ralls [c.o.s.] 90’

.

Torf: 26,541