Prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement (Llun: Golwg360)
Roedd tîm pêl-droed Abertawe’n haeddu pwynt yn Stadiwm Etihad, meddai’r prif hyfforddwr Paul Clement ar ôl gweld ei dîm yn colli o 2-1 yn erbyn Man City yn Stadiwm Etihad.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i Gabriel Jesus sgorio ar ôl 10 munud, ac fe gafodd Man City rhan fwya’r meddiant yn ystod yr hanner fel ei bod yn edrych fel pe gallai fod yn brynhawn hir i’r Elyrch.

Ond fe ddaeth Luciano Narsingh oddi ar y fainc yn yr ail hanner ac roedd yr Elyrch yn edrych yn fwy bygythiol o hynny ymlaen.

Fe ddechreuodd yr asgellwr o’r Iseldiroedd yr ymosodiad a arweiniodd at gôl Gylfi Sigurdsson naw munud cyn diwedd y gêm i roi llygedyn o obaith i’r Elyrch.

Ond yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau, fe gafodd Man City rywfaint o lwc wrth i’r bêl adlamu oddi ar y golwr Lukasz Fabianski i Gabriel Jesus, ac fe rwydodd am yr ail waith.

Cic rydd?

Cyn y gôl fuddugol, roedd Paul Clement yn teimlo na ddylai Man City fod wedi cael cic rydd, ac roedd yn anhapus gyda’r ffordd y cafodd y gic ei chymryd.

Roedd y dyfarnwr Mike Dean yn credu bod Luciano Narsingh wedi taclo Aleksandar Kolarov yn flêr.

Ond dywedodd Paul Clement: “Dw i’n siomedig gyda’r amgylchiadau a arweiniodd at y gôl fuddugol.

“Roedd hi o’m blaen i a doedd hi ddim yn drosedd. Roedd Narsingh wedi ceisio osgoi tacl gan Kolarov.

“Mae’r llumanwr yn teimlo ei fod e wedi ei daflu fe allan o’r ffordd ond mewn gwirionedd, roedd Kolarov wedi trio mynd ysgwydd yn ysgwydd, ac fe symudodd Narsingh o’r ffordd.”

‘Rhwystredig’

Ychwanegodd Paul Clement: “Roedd yr hanner cynta’n rhwystredig iawn.

“Roedden ni dan bwysau o’r munud gyntaf i funud rhif 45, ac roedd y ffaith mai un gôl yn unig aeth i mewn yn fonws i ni.

“Doedd ein siâp amddiffynnol ddim yn rhy ddrwg ond yn nhermau rhoi pwysau ar y bêl a bod yn ymosodol mewn sefyllfaoedd un-i-un, doedden ni ddim yn ddigon da.

“Pan gawson ni’r bêl, fe wnaethon ni ei gwastraffu.

“Roedd tipyn o bethau i wella arnyn nhw ac roedd yn dda gweld hanner amser yn dod.”

Gwelliant yn yr ail hanner

Roedd yr Elyrch yn “dîm gwahanol” yn yr ail hanner, meddai Paul Clement.

“Ni oedd y tîm gorau yn yr ail hanner. Roedden ni’n fwy hyderus gyda’r bêl ac yn fwy ymosodol wrth amddiffyn ac fe sgorion ni gôl dda iawn.

“Yn amlwg, roedd ildio’r ail gôl yn ergyd fawr gan ein bod ni wedi gwneud digon dros y 90 munud i haeddu pwynt.”