Wasps 22–31 Gweilch

Mae’r Gweilch allan o’r Cwpan Eingl-Gymreig er iddynt drechu’r Wasps gyda phwynt bonws oddi cartref yn y Ricoh Arena brynhawn Sul.

Gorffennodd y Cymry gyda phymtheg pwynt o’u pedair gêm yng ngrŵp 2, ond does dim lle iddynt yn y pedwar olaf serch hynny oherwydd strwythr rhyfedd y gystadeuaeth sy’n golygu nad yw timau o’r un grŵp yn chwarae’i gilydd.

Pwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm wrth droi wedi i Jay Baker ymateb i ddau gais Brendan Macken trwy groesi ddwy waith i’r Gweilch, 12-14 y sgôr wrth droi.

Cyfnewidiodd Warren Searls a Luke Price gic gosb yr un ar ddechrau’r ail hanner cyn i gais Guy Armitage roi’r Saeson ar y blaen gyda deuddeg munud i fynd.

Yn ôl y daeth y Gweilch serch hynny gyda chais Kieron Fonotia yn eu rhoi yn ôl ar y blaen cyn i ymdrech Hanno Dirksen sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i’r Gweilch wrth i Gaerwysg efelychu eu camp ym Mryste i orffen ar frig grŵp 2 a sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol.

.

Wasps

Ceisiau: Brendan Macken 10’, 31’, Guy Armitage 68’

Trosiadau: Warren Searls 10’, 68’

Cic Gosb: Warren Searls 46’

.

Gweilch

Ceisiau: Jay Baker 13’, 35’, Kireon Fonotia 70’, Hanno Dirksen 79’

Trosiadau: Luke Price 13’, 35’, 70, 79’

Cic Gosb: Luke Price 52’