Man City 2–1 Abertawe
Sgoriodd Gabriel Jesus gôl hwyr wrth i Man City guro Abertawe yn yr Etihad yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sul.
Roedd y Brasiliad eisoes wedi rhoi mantais gynnar i’r tîm cartref cyn iddo gipio’r tri phwynt gyda gôl hwyr wedi i Gylfi Sigurdsson unioni i’r Elyrch.
Deg munud a oedd ar y cloc pan agorodd Jesus y sgorio, y bêl yn adlamu’n garedig iddo yn dilyn gwaith da David Silva ar ochr chwith y cwrt cosbi.
Er i’r tîm cartref reoli gweddill yr hanner fe lwyddodd Abertawe i’w gwneud hi tan yr egwyl heb ildio eto.
Roedd y Cymry’n well wedi’r egwyl ac roeddynt yn gyfartal ddeg munud o’r diwedd wedi i Sigurdsson sgorio o groesiad Luciano Narsingh.
Deffrodd City wedi hynny ac er i’r Elyrch ddod yn agos at ddal eu gafael am bwynt, fe gipiodd Jesus hwnnw oddi arnynt yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, yn rhwydo ar yr ail gynnig wedi i’w beniad gwreiddiol gael ei arbed gan Lukasz Fabianski.
Mae Abertawe’n aros un lle ac un pwynt uwch ben safleoedd y gwymp er gwaethaf y golled.
.
Man City
Tîm: Caballero, Fernandinho, Stones, Kolarov, Clichy, De Bruyne (Zabaleta 78’), Toure, Silva (Fernando 90+5’), Sterling (Aguero 83’), de Jesus, Sane
Goliau: Jesus 11’
Cardiau Melyn: De Bruyne 42’, Sterling 44’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer, Cork, Carroll (Dyer 75’), Routledge (Narsingh 65’), Llorente (Baston 83’), Sigurdsson
Gôl: Sigurdsson 81’
Cardiau Melyn: Llorente 60’, Cork 75’, Sigurdsson 90+3’
.
Torf: 54,065