Cheltenham 1–1 Casnewydd 
                                                        

Cipiodd Casnewydd bwynt dramatig yn erbyn Cheltenham yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn gyda gôl hwyr Jaanai Gordon ar Whaddon Road.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Kyle Wootton y tîm cartref ar y blaen toc wedi’r awr ar ôl i ergyd Dan Holman wyro’n garedig i’w lwybr oddi ar y trawst.

Ac felly yr arhosodd hi tan y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm pan rwydodd Gordon yn dilyn gwaith creu Josh Sheehan.

Pwynt gwerthfawr i Gasnewydd felly ond mae’r Alltudion yn aros ar waelod tabl yr Ail Adran gyda deunaw gêm yn weddill.

.

Cheltenham

Tîm: Brown, Onariase, Boyle, Plavotic, Barthram, Pell, Rowe, Davis, Waters, Holman (De Girolamo 78’), Wootton (Wright 78’)

Gôl: Wootton 62’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Nelson, O’Brien, Jones, Pipe, Rose, Bennett (Rigg 64’), Butler, Reid (Sheehan 76’), Bird, Williams (Gordon 68’)

Gôl: Gordon 90+3’

.

Torf: 3,763