Mihai Leca (Llun o wefan Pel-droed Rwmania)
Y Seintiau Newydd ydi’r clwb cynta’ yn Uwch Gynghrair Cymru i arwyddo chwaraewr o Rwmania.

Mae Mihai Leca, 24 oed, wedi cynrychioli tîm o dan 21 oed Rwmania saith o weithiau, ac mae ganddo’r enw o fod yn amddiffynnwr pwerus a chryf.

“Rydan wastad yn cael asiantau yn cysylltu â ni, yn enwedig bod ni’n clwb llwyddiannus ac yn chwarae’n gyson yn Ewrop y dyddiau hyn,” meddai Craig Harrison, rheolwr y Seintiau.

“Fel arfer mi fydda’ i’n gweld chwaraewr dw i eisiau ei arwyddo tua thair neu bedair gwaith cyn ei arwyddo. Y tro hwn, efo Mihai, mi wnes wylio ambell fideo ohono fo ac wedyn ei wahodd yma am dreial.

“O’n i’n gwybod yn syth fy mod i am ei arwyddo fo, ond fel pawb arall yn y garfan bydd rhaid iddo ennill ei le yn y tîm.”

Mi ddechreuodd Leca  ei yrfa gyda’r clwb Steau Bucharest, ond wedyn gyda Concordia Chiajna y creodd o argraff go iawn, cyn symud i Otelul Galati. Symudodd dramor am y tro gyntaf  i gynghrair Irac i ymuno â Zakho FC, oedd yn cael eu rheoli gan  Dorinel Munteanu o Rwmania yn nhymor 2015/16. Symudodd yn ôl i’w famwlad i ymuno â Brasov a dechrau 11 gwaith cyn dod i sylw’r Seintiau.

Chwaraewyr Rhyngwladol

Mae Leca yn ymuno a chwaraewr rhyngwladol eraill y clwb sy’n cynnwys Greg Draper (Seland Newydd) Steve Saunders ( Yr Alban) Steve Evans ( Cymru) a chwaraewr o dan 21 Gogledd Iwerddon Ryan Brobbel.

Mae Craig Harrison yn sicr bydd ei brofiad yn bwysig yn enwedig pe bai’r Seintiau’n ennill ei lle yn Ewrop eto’r tymor nesaf.

Dywedodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Uwch Gynghrair Cymru wrth golwg360: “Mae’n dda bod chwaraewyr o safon yn dod i mewn i’r gynghrair, a gydag amddiffyn o safon yn barod gan y Seintiau mae’n rhaid bod Mihai Leca yn chwaraewr da, eto mae rhaid ni beidio colli hunaniaeth Cymreig y Gynghrair.”

Mae’r Seintiau Newydd yn chwarae Met Caerdydd ddydd Sadwrn, Chwefror 4. Y gic gyntaf am 2.30yp.