Neil Taylor (Llun: Nick Potts/PA)
Mae Neil Taylor wedi diolch i gefnogwyr Abertawe, ar ôl iddo arwyddo i Aston Villa.

Daeth cadarnhad o’r trosglwyddiad neithiwr ar ôl i gefnwr chwith Cymru arwyddo cytundeb pedair blynedd a hanner gyda’r clwb sy’n brwydro i ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair.

Mae lle i gredu bod Abertawe wedi talu £5 miliwn i Aston Villa fel rhan o’r trosglwyddiad sy’n gweld Jordan Ayew yn symud i Stadiwm Liberty.

Ond fydd chwaraewr rhyngwladol Ghana ddim ar gael tan ar ôl cystadleuaeth Cwpan Gwledydd Affrica, lle gallai ei wlad gyrraedd y rownd derfynol ddydd Sul.

Mae e wedi arwyddo cytundeb gyda’r Elyrch fydd yn ei gadw yn ne Cymru tan 2020.

Chwaraeodd ei frawd Andre i’r Elyrch cyn symud i West Ham y tymor diwetha’.

‘Ddim yn hawdd gadael’

Yn ôl Neil Taylor, yr unig Gymro yng ngharfan Abertawe yn dilyn ymadawiad Ashley Williams yn yr haf, doedd hi ddim yn hawdd gadael y clwb.

Mae e’n gadael ar ôl bron i saith mlynedd ar ôl symud o Wrecsam yn 2010, ac fe fyddan nhw hefyd yn elwa’n ariannol o’r trosglwyddiad yn sgil cymal yn ei gytundeb.

Fe sicrhaodd Abertawe ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb.

Mae e wedi chwarae i’r clwb 179 o weithiau, ac wedi ennill 38 o gapiau dros Gymru.

“Mae gyda fi gydnawsedd â’r clwb ar ôl saith mlynedd gwych ac wrth gwrs ei bod hi’n anodd gadael,” meddai Neil Taylor.

“Mae Abertawe wedi bod yn gartref i fi. Cafodd fy mhlant eu geni yn y ddinas ac mae fy nheulu wedi tyfu yma.

“Ac ar y cae, dw i’n teimlo’n freintiedig o gael bod yn rhan o’r blynyddoedd mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb ar ôl dod o’r byd pêl-droed y tu allan i’r gynghrair.

“Hoffwn ddiolch i’r cefnogwyr am yr holl gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi i fi, ac am y croeso wnaethon nhw ei roi i’r teulu.

“Roedden ni wrth ein bodd yn byw yn y ddinas bob munud. Mae’n rhan hyfryd o’r byd a bydd fy nheulu’n sicr yn ymweld yn y dyfodol.”

Dyddiau gwell i ddod

Er bod hanner cynta’r tymor wedi bod yn siomedig i Neil Taylor ac i Abertawe, mae e’n ffyddiog y gall y prif hyfforddwr newydd, Paul Clement sicrhau bod y clwb yn aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesa’.

“Alla’ i ddweud yn onest, drwy benodi Paul, fod y clwb wedi gwneud y peth iawn,” meddai’r rheolwr.

“Dw i wedi gweld newid yn yr amser byr mae e a’i staff wedi bod yn y clwb a dw i’n sicr yn rhagweld y bydd Abertawe’n aros i fyny.”