Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd. Diwrnod ola’ ffenestr drosglwyddo mis Ionawr 2017…

Mae wedi bod yn fis cyffrous gyda Dimitri Payet, West Ham yn creu ei symudiad ei hun wrth gyhoeddi nad ydi o eisiau chware iddyn nhw am resymau teuluol… a’i fod am ddychwelyd i’w gyn-glwb, Marseille.

Ac mae China wedi bod yn taflu eu pres o gwmpas fel nad oes diwedd arno fo, er mwyn ceisio denu chwaraewyr o’r Uwch Gynghrair yno.

Abertawe

Mae Paul Clement wedi bod yn brysur yn arwyddo Tom Carroll o Spurs a Matin Olsson o Norwich, gan werthu amddiffynnwr Cymru, Neil Taylor, i Aston Villa.

Heddiw mae Marvin Emnes wedi ymuno â Blackburn Rovers ar fenthyg.

Y gweddill o Gymru 

Dydi rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, hyd yma ddim ond wedi arwyddo un chwaraewr profiadol – sef Greg Halford o Rotherham.

Casnewydd sydd wedi bod y brysura’ y mis hwn, gydag unarddeg symudiad yn digwydd yn y clwb.

Mae rheolwr Wrecsam, Dean Keates, wedi bod yn brysur gan geisio adeiladu carfan all gystadlu am ddyrchafiad y tymor nesa’.

Yn Uwch Gynghrair Cymru, mae nifer o glybiau wedi bod yn brysur gan geisio ennill lle’n Ewrop neu osgoi disgyn o’r gynghrair. Mae Clwb Dinas Bangor wedi arwyddo cyn chwaraewr o Uwch Ggynghrair Lloegr, Gary Taylor-Fletcher o Accrington Stanley, ond yn siomedig, fe aeth Brayden Shaw yn ôl i’w glwb. Yn sicr bydd mwy o symudiadau yn yr oriau nesaf cyn i’r terfyn dod i ben.