Wrecsam 2–1 Boreham Wood
Sgoriodd John Rooney gic o’r smotyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i Wrecsam guro Boreham Wood ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Mae’r Dreigiau bellach heb golli mewn pedair gêm yn y Gynghrair Genedlaethol wrth i’w gobeithion main o gyrraedd y gemau ail gyfle aros yn fyw.
Ciciau o’r smotyn oedd pob un o dair gôl y gêm a daeth y gyntaf o’r rheiny gan Antony Barry yn yr hanner cyntaf wedi trosedd ar Izale McLeod.
Unionodd Morgan Ferrier o ddeuddeg llath i Boreham Wood chwarter awr o ddiwedd y naw deg wedi trosedd Mark Carrington arno.
Ond y Dreigiau a gafodd y gair olaf wrth i’r eilydd, John Rooney, sgorio o’r smotyn i gipio’r tri phwynt yn yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r deuddegfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, ddeg pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Rutherford, Jennings, Tilt, Carrington, McLeod (Massanka 65’), Shenton, Penn (Evans 47’), Barry (Rooney 78’), White, Riley
Goliau: Barry [c.o.s.] 27’, Rooney [c.o.s.] 90+3’
Cardiau Melyn: White 17’, Carrington 75’
.
Boreham Wood
Tîm: Smith, Nunn, Ilesanmi, Davis (Shakes 54’), Paine, Devera, Ricketts, Jeffrey, Ferrier, Hitchcock (Andrade 54’), Balanta
Gôl: Ferrier [c.o.s.] 76’
.
Torf: 3,664