Rhys Griffiths (Llun: Clwb Pêl-droed Pen-y-bont)
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Pen-y-bont yn gyfarwydd i lawer o gefnogwyr y gêm ledled Cymru.

Ac yntau wedi sgorio bron i 250 o goliau yn yr Uwch Gynghrair, ac yn ail yn y rhestr goliau i Marc Lloyd Williams, mae Rhys Griffiths nawr yn ceisio rhoi Pen-y-bont ar y map trwy guro’r Bala ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru ddydd Sadwrn, Ionawr 28.

Ar ôl gyrfa lwyddiannus gyda nifer o glybiau a phrofiad o chwarae  yn adran 2 o’r gynghrair yn Lloegr gyda Plymouth Argyle, mi benderfynodd yr ha’ diwetha’ i ganolbwyntio ar reoli.

Fe gafodd yrfa rwystredig ar adegau, gyda nifer o anafiadau, ac roedd yn benderfyniad hawdd yn y diwedd i roi’r gorau i chwarae, meddai.

“Ar ôl gadael Casnewydd yn 2013, ro’n i’n gwybod na fydden i byth yn gallu ail-afael yn y safnon o’n i wedi arfer ag o ar y cae,” meddai wrth golwg360.

“Roedd yr anafiadau wedi hen ddal i fyny â fi, a hefyd yn yr oed o’n i, lle bynnag fydden i’n chwarae, mi fyddai rheolwyr y clybiau yn edrych dros eu hysgwyddau arna’ i.

“Mi dderbyniais alwad gan Pen-y-bont yn yr ha’, ac ar ôl gwrando ar eu cynlluniau am y dyfodol, ro’n i’n fwy na hapus i gymryd y cyfle o fod yn rheolwr.”

Cred

Gyda thim Met Caerdydd yn cael tymor llwyddiannus yn yr Uwch Gynghrair, maen nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i glybiau fel Pen-y-bont meddai Rhys.

”Mae llwyddiant Met yn rhoi cred i fi y gallwn ni efelychu nhw, mae Pen-y-bont yn ardal anferth, mae rhaid ni greu cyffro ar y cae i ddenu pobl yma,” meddai, gan ychwanegu pa mor falch ydi o o gael Martyn Giles, ei gynorthwy-ydd, wrth ei ochr.

“Rhywbeth dros dro oedd Martyn a fi i weithio â’n gilydd, gweld sut oedd yn mynd, a dw i’n hynod o falch bod ni wedi aros ân gilydd, mae’n gymorth i fi,” meddai wrth golwg360.

“Roedd curo Airbus yn y drydedd rownd adre’ yn ganlyniad gwych, ond heb os bydd Y Bala yn cynnig rhywbeth gwahanol, bydd Y Bala yn barod amdanon ni ar ôl y canlyniad yna.

“Heb os roedd y buzz wedi mynd o fy chwarae i, ond dw i wedi’i gael o’n ôl ers bod yn rheolwr. Dim ond am ugain gêm dw i wedi bod wrth y llyw, ond mae’n teimlo fel dau dymor. Rydan ni wedi paratoi yn fanwl at ddydd Sadwrn, ac mi fyddan ni’n aros mewn gwesty ger Machynlleth nos Wener er mwyn i’r hogiau gael ymlacio.”

Nabod y dyn 

Yn sicr, fe fydd nifer yn Y Bala yn gyfarwydd â Rhys Griffiths, ac mae’n gobeithio y bydd ei dîm yn rhoi sioe dda brynhawn Sadwrn ar Faes Tegid.

Mae’n sylwebu ar gemau’r Uwch Gynghrair yn achlysurol i raglen Sgorio, rhywbeth mae’n ei fwynhau. Ac mae’n dal i ddysgu Cymraeg, pan mae’n cael amser.