Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod pedwaredd rownd Cwpan Cymru, ac fe fydd Y  Bala yn wynebu gwrthwynebwyr o’r de ar Faes Tegid.

Mae clwb Y Bala wedi dod yn bell dros y blynyddoedd diwetha’, gan chwarae ar lwyfan Ewrop, ond mae Cwpan Cymru yn dal yn un sydd wedi osgoi cwpwrdd tlysau’r Bala.

Mae Ruth Crump, sydd wedi cyflawni llawer o swyddi gyda’r clwb, yn byw mewn gobaith mai y tymor hwn bydd yr amser mae’r Bala yn codi’r gwpan. Mae’r Bala wedi cyrraedd y cyn rownd derfynol dwywaith yn y gorffennol  – colli i’r Seintiau Newydd yn nhymor 2011/12 a  2013/14.

Gêm galed yn erbyn Pen-y-bont

Meddai Ruth, sy’n drysorydd, ysgrifenyddes a Swyddog trwyddedau’r clwb: “Bydd Penybont yn gêm galed. Mi ddangosasant nhw fod nhw’n dîm da wrth guro Airbus yn y drydedd rownd.  Rydan ni yn Y Bala yn gyfarwydd iawn â’r rheolwr Rhys Griffiths, roedd yn dipyn o sgoriwr yn ei ddydd.

“Mi fydd ein tîm rheoli wedi gwneud eu gwaith cartref arnyn nhw. Nod y clwb yw ennill bob gêm, a buasai’n freuddwyd i gael gweld  Y Bala yn ffeinal y gwpan.”

Rhan o’r gymuned

Mae wedi bod yn dymor rhyfedd i’r Bala gyda llawer yn digwydd oddi ar y cae. Roedd y cae 3G yn cael ei rhoi lawr dechrau’ tymor, roedd llawer o anafiadau, ac mae pawb yn hapus bod y tîm wedi rhoi rhediad da i orffen yn drydedd cyn i’r gynghrair hollti.

Mae’r cae 3G wedi bod yn wych i’r clwb meddai Ruth, “Y bwriad oedd cael y clwb yn rhan o’r gymuned, heb os mae wedi llwyddo, gyda llawer o glybiau lleol a phlant yn eu defnyddio, mae’r tri mis gyntaf wedi bod yn wych.

“Mae Andy Kelly yn rhedeg yr academi a wneud llawer o waith yn y gymuned. Mae  wedi dechrau tîm merched gyda llawer o ddiddordeb hyd rŵan.”

Pe bai’R Bala yn llwyddo i ennill y gwpan, mi fyddan yn cystadlu unwaith eto yn Ewrop. Ac mae Ruth a’r clwb wedi mwynhau eu hamser ar y cyfandir.”Rwy’n mwynhau’r amser yn Ewrop , meddai, “Mae ’na buzz o gwmpas y draw, ond mae’n amser cyffrous a phleserus, mi fuasai’n wych i ennill y gwpan a bod yn Ewrop eto tymor nesa.”