Paul Clement (Llun: golwg360)
Lai nag wythnos cyn i ffenest drosglwyddo’r Uwch Gynghrair gau unwaith eto, mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement yn tynnu ar arbenigedd Americanwr am ysbrydoliaeth.

Dair wythnos yn ôl, ar ôl cael ei benodi’n olynydd i Bob Bradley, fe ddatgelodd Paul Clement ei fod yn awyddus i ddefnyddio’i holl adnoddau i adnabod chwaraewyr a fyddai’n gallu cryfhau’r garfan wrth iddyn nhw geisio ffeindio’u ffordd allan o waelodion yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl methiant Bob Bradley, a barodd 85 diwrnod yn unig yn ei swydd, mae’r atgasedd wedi troi at y perchnogion Americanaidd, Steve Kaplan a Jason Levien, sydd hefyd wedi penodi nifer o staff Americanaidd, gan gynnwys yr arbenigwr ar ystadegau, Dan Altman.

Mae Dan Altman yn arbenigwr ar ddull o adnabod chwaraewyr sy’n cael ei alw’n ‘Moneyball’, am ei fod yn gysylltiedig â rhai o’r campau Americanaidd sy’n talu chwaraewyr lawer iawn mwy o arian na’r byd pêl-droed yng ngwledydd Prydain.

Adeg penodi Dan Altman, dywedodd Paul Clement: “Dw i’n gredwr y dylai dadansoddi ystadegau fod yn rhan o’r jig-so sy’n cyd-fynd â helpu i recriwtio chwaraewyr ac asesu’ch tîm eich hunan,” meddai.

“Mae gyda fi brofiad o hyn, dw i wedi teithio i’r Unol Daleithiau ac wedi ymweld â nifer o dimau chwaraeon sy’n defnyddio data. Dw i’n credu y dylai gael ei ddefnyddio fel rhan o’r broses o benderfynu pwy sy’n dod i’r clwb.”

Ond mae Paul Clement bellach wedi datgelu, yn ogystal â’r ffaith ei fod e wedi cydweithio â Dan Altman ers iddo gyrraedd Stadiwm Liberty, ei fod e hefyd wedi treulio cyfnod yng nghwmni sylfaenydd y dull ‘Moneyball’, Billy Beane.

Pwy yw Billy Beane?

Un o berchnogion tîm pêl-fas yr Oakland Athletics yw Billy Beane, ac mae ganddo fe ddiddordeb yn y byd pêl-droed a chyswllt agos ag un o gyfarwyddwyr Chelsea, lle bu Paul Clement yn is-hyfforddwr o dan arweiniad Carlo Ancelotti.

O ganlyniad i gyfyngiadau ariannol a ‘chap’ ar gyflogau chwaraewyr, fe ddatblygodd e system o adnabod chwaraewyr gan ddadansoddi gwahanol agweddau ar eu chwarae.

Dydy’r fath system ddim eto wedi gweld golau dydd, ond mae Billy Beane yn cael ei ystyried yn arloeswr o fath ym myd y campau yn yr Unol Daleithiau. Yn y byd pêl-droed, mae e eisoes wedi creu argraff ar dîm AZ Alkmaar yn yr Iseldiroedd, wrth iddyn nhw ei benodi fe’n ymgynghorydd yn 2015.

‘Rhan o’r darlun mawr’

Yn ôl Paul Clement, mae defnyddio dulliau dadansoddi Billy Beane yn “rhan o’r darlun mawr”, ac mae’n parhau i ddibynnu ar sgiliau sgowtiaid traddodiadol, gan gynnwys y cyn-hyfforddwr Alan Curtis, sydd bellach yn gofalu am chwaraewyr sydd allan ar fenthyg gyda chlybiau eraill.

Ond fe allai dull ychwanegol o helpu i adnabod chwaraewyr addas fod yn arf bwysig i Paul Clement yn ystod wythnos sy’n debygol o fod yn brysur, wrth i dimau ddechrau cau pen y mwdwl ar drosglwyddiadau cyn y dyddiad cau ar Ionawr 31.

Meddai Paul Clement: “Ro’n i gyda Chelsea ac roedd gan un o’n cyfarwyddwyr ni ar y pryd gysylltiad â Billy Beane.

“Felly es i ar daith astudio i arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau ac un o’r llefydd es i iddo fe oedd yr Oakland Athletics, a threulio ychydig ddiwrnodau yno’n gwylio gêm ac yn siarad â fe am ei ddulliau dadansoddi a dw i wedi cadw mewn cysylltiad â fe.”

Er y bydd peth ansicrwydd a beirniadu ar ei ddulliau, mae Paul Clement yn gwbl sicr y gall fod o ddefnydd i Abertawe wrth iddyn nhw geisio ychwanegu at y tri chwaraewr newydd sydd wedi dod i mewn i’r clwb ym mis Ionawr, Martin Olsson, Tom Carroll a Luciano Narsingh.

“Mae llawer o dimau yn y campau Americanaidd yn defnyddio data. Nid dim ond ym mhêl-fas ond pêl-fasged a’r NFL hefyd, a dyna ry’n ni am ei wneud.

“R’yn ni am ei ddefnyddio fel rhan o’n proses gudd-wybodaeth i gasglu gwybodaeth. Ond rhan yn unig yw hynny o’r darlun mawr. Mae’n rhan o’r jig-so ry’n ni’n ei ddefnyddio.

“Dw i’n ei gael yn ddefnyddiol oherwydd os edrychwch chi arno fe o safbwynt recriwtio, mae miloedd ar filoedd o chwaraewyr. Sut ydych chi’n torri’r rheiny i lawr i ddechrau?

“Felly fe all fod yn ddefnyddiol i chwynnu a chanolbwyntio’n fanylach.”