Caer 1–1 Wrecsam
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Wrecsam ymweld â Stadiwm Deva i herio Caer mewn gêm ddarbi yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd John Rooney’r Dreigiau ar y blaen cyn i James Alabi unioni pethau i Gaer, a orffennodd y gêm gyda deg dyn.
Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Rooney Wrecsam ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner o groesiad Anthony Barry.
Wnaeth hi ddim aros felly’n hir ac roedd Caer yn gyfartal ar yr awr. Cafodd Alabi ei lorio yn y cwrt cosbi gan James Jennings cyn codi ar ei draed i sgorio o’r smotyn.
Cafodd Luke George ei anfon oddi ar y cae i’r tîm cartref ddeuddeg munud o’r diwedd a gorffennodd Wrecsam yn gryf.
Bu bron i Jordan White a Paul Rutherford ei hennill hi i’r ymwelwyr ond bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar bwynt.
Mae’r gêm gyfartal yn gadael Wrecsam yn drydydd ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.
.
Caer
Tîm: Lynch, Vassell, Hudson, Shaw, Hunt, Astles, George, Lloyd, Durrell, Alabi, Richards
Gôl: Alabi [c.o.s.] 60’
Cardiau Melyn: George 70’, 79’
Cerdyn Coch: George 79’
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Jennings, Riley, Rooney, Barry (Shenton 84’), Tilt, White, McLeod (Massanka 71’), Carrington, Rutherford, Penn
Gôl: Rooney 53’
Cardiau Melyn: Penn 36’, Rooney 53’, Jennings 90’
.
Torf: 3,961