Barnet 0–0 Casnewydd   
                                                                 

Cafodd Casnewydd bwynt digon parchus wrth iddynt deithio i Stadiwm Hive i herio Barnet yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Daeth David Pipe yn agos i Gasnewydd mewn hanner cyntaf agos ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi’r egwyl.

Roedd gôl Casnewydd dan warchae am gyfnodau hir ond gwnaeth Joe Day sawl arbediad da i gadw pethau’n ddi sgôr, yn bennaf i atal Simeon Akinola a Mauro Vilhete.

Mae Casnewydd yn aros ar waelod tabl yr Ail Adran er gwaethaf y gêm gyfartal.

.

Barnet

Tîm: Vickers, Taylor (Coulson 76’), Nelson, Almeida Santos, Johnson, Vilhete, Weston, Taylor, Kyei, Akinde, Akinola

.

Casnewydd

Tîm: Day, Jones, O’Brien, Butler, Nelson, Pipe (Demetriou 83’), Randall (Samuel 29’), Bennett, Sheehan, Reid (Owen-Evans 65’), Williams

Cerdyn Melyn: O’Brien 74’

.

Torf: 2,623