Gylfi Sigurdsson (Llun: PA)
Mae’r ymosodwr Gylfi Sigurdsson wedi talu teyrnged i gymeriad tîm pêl-droed Abertawe wrth iddyn nhw guro Lerpwl o 3-2 i sicrhau eu budugoliaeth gynghrair gyntaf erioed yn Anfield.

Aeth yr Elyrch ar y blaen o 2-0 diolch i ddwy gôl gan y Sbaenwr Fernando Llorente cyn i Lerpwl unioni’r sgôr gyda dwy gôl gan Roberto Firmino.

Ond y chwaraewr o Wlad yr Iâ ei hun darodd yr ergyd fuddugol ar ôl 73 o funudau i godi Abertawe allan o dri safle isa’r Uwch Gynghrair.

Dywedodd Gylfi Sigurdsson wrth BT Sport y byddai ei dîm wedi bod yn hapus pe baen nhw wedi ennill dim ond un pwynt.

“Ar ôl bod ar y blaen o 2-0 ac yna 2-2 roedd hynny’n siom fawr, ond mae pwynt hyd yn oed yn ganlyniad da iawn yn Anfield.

“Fe ddangosodd gymeriad y tîm pan wnaethon ni wthio i fyny tua’r diwedd a chael y gôl fuddugol.”

Fernando Llorente – “y dyn mawr”

Wrth ganmol y Sbaenwr Fernando Llorente am ei berfformiad, ychwanegodd Gylfi Sigurdsson: “Mae’r dyn mawr yn gryf iawn yn y cwrt cosbi.

“Rhaid i ni gael [y bêl] i mewn iddo fe ac mae e’n dda yn yr awyr.

“Roedd gwaith amddiffynnol y tîm yn rhagorol a dw i’n credu bod ein cynllun ar gyfer y gêm wedi gweithio’n berffaith.”

“Dwy gôl i fi… ond y drydedd yn bwysicach”

Er ei ddwy gôl, dywedodd Fernando Llorente mai gôl Gylfi Sigurdsson oedd y bwysicaf y prynhawn yma.

“Fe ges i ddwy gôl ond roedd y drydedd gôl yn bwysicach i’r tîm cyfan. Roedd rhaid i ni frwydro a rhedeg dipyn.

“Dw i’n hapus iawn drosof fi fy hun, ond yn hapus iawn, iawn i’r tîm.”