Prif dlws clybiau Ewrop ar y chwith (Llun: Golwg360)
Mae ymgyrch wedi’i sefydlu i ddenu 1,000 o wirfoddolwyr ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio ymgyrch ‘Byddwch yn Bencampwr’ i sicrhau gwirfoddolwyr i gynorthwyo â thrafnidiaeth, marchnata, tocynnau a gwasanaethau arbennig.

Bydd angen gwasanaeth 500 o bobl eraill i berfformio yn ystod y seremoni cyn y gêm yn Stadiwm Principality – fydd yn cael ei hail-enwi’n Stadiwm Genedlaethol Cymru ar gyfer y gêm am resymau hysbysebu.

Bydd angen i’r gwirfoddolwyr llwyddiannus gynorthwyo yn y dyddiau cyn y gêm derfynol ac yn ystod y gêm ei hun, a fydd yn cael ei chynnal ar Fehefin 3.

Hefyd, mae angen gwirfoddolwyr i gynorthwyo yn ystod gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr y menywod yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 1.