Fe fydd Abertawe’n teithio i Anfield heddiw i herio Lerpwl, prif sgorwyr yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, wrth iddyn nhw geisio codi oddi ar waelod y tabl.
Gallai buddugoliaeth godi’r Elyrch uwchben Sunderland, Hull a Crystal Palace ac allan o’r tri safle isaf am y tro, ond mae Sunderland a Hull yn chwarae am 3 o’r gloch y prynhawn yma.
Ond mae triphwynt i’r Elyrch yn annhebygol gan nad ydyn nhw erioed wedi ennill gêm yn yr Uwch Gynghrair yn Anfield.
Tra bod yr Elyrch wedi ildio 49 o goliau yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, sgorio 49 o goliau y mae Lerpwl, sy’n drydydd yn y tabl.
Ymhlith carfan Lerpwl, mae terfyn ar anghydfod rhwng ei glwb a gwlad Cameroon yn golygu y gallai amddiffynnwr Lerpwl Joel Matip fod ar gael, ac fe allai’r cefnwr de Nathaniel Clyne ddychwelyd ar ôl anaf.
Mae amheuon o hyd am ffitrwydd asgellwr newydd yr Elyrch, Luciano Narsingh a gollodd y gêm yn erbyn Arsenal ag anaf i’w goes.
Ond mae disgwyl i’r ddau chwaraewr newydd, Martin Olsson a Tom Carroll fod yn y garfan.
Jurgen Klopp v Paul Clement
Yn gyn is-hyfforddwr Real Madrid, mae gan Paul Clement, prif hyfforddwr Abertawe, brofiad o herio Jurgen Klopp yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Paul Clement a Real Madrid, bryd hynny, oedd yn fuddugol o 3-2 dros ddau gymal yn erbyn Jurgen Klopp a Borussia Dortmund.
Er bod her o fath hollol wahanol o flaen Paul Clement heddiw, fe fydd e’n hen gyfarwydd â dull Jurgen Klopp o reoli ei dîm a’i dactegau, ac mae’n dweud bod Lerpwl yn debyg i Borussia Dortmund.
“Mae gyda nhw lawer o egni. Roedden ni’n dda yn y cymal cyntaf, ond dan bwysau yn yr ail.
“Dw i’n credu bod pobol Lerpwl wedi cymryd ato fe, y math o gymeriad yw e. Mae ganddo fe dipyn o bresenoldeb a lot o garisma.”
Cofio’r gorffennol yn Anfield
Pan oedd Paul Clement yn is-reolwr Chelsea gyda Carlo Ancelotti, fe enillon nhw’r ‘dwbwl’ (y gynghrair a’r gwpan) yn 2009-10.
Roedd taith i Anfield yn allweddol i’r gamp honno, gyda gêm fawr yn erbyn Lerpwl tua diwedd y tymor.
Dywedodd Paul Clement: “Roedden ni wedi curo Manchester United yn Old Trafford. Roedd dwy gêm i fynd , roedd rhaid i ni eu herio nhw oddi cartref a Wigan gartref.
“Enillon ni yno [yn Anfield], sgoriodd [Frank] Lampard yr ail [gôl], dw i’n credu mai [Didier] Drogba gafodd y gyntaf.”
Gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr oedd yr ail, pan oedd Paul Clement yn gweithio i un arall o reolwyr Chelsea, Guus Hiddink.
“Chwaraeon ni’n dda iawn yno. Dyna’r atgofion gorau sydd gyda fi. Byddai’n dda cael un arall ddydd Sadwrn!”
Egni
Yn ôl Paul Clement, Lerpwl sy’n gosod y safon o ran ffitrwydd i weddill y timau yn yr Uwch Gynghrair.
Ac fe fydd rhaid i Abertawe allu para 90 munud os ydyn nhw am sicrhau o leiaf un pwynt.
Ychwanegodd Paul Clement: “Mae’n her fawr, bydd rhaid i ni fod yn drefnus a bod yn gryf iawn yn feddyliol yn ystod y gêm.
“Efallai na fydd gyda ni’r bêl am gyfnodau hir ac mae’n bosib y byddwn ni ar y droed ôl am gyfnodau hefyd, ac felly bydd rhaid i ni chwarae’n dda iawn i gael unrhyw beth allan o’r gêm.”
Daniel Sturridge
Yn ôl Paul Clement, fe fydd rhaid i’r Elyrch allu tawelu Daniel Sturridge er mwyn sicrhau o leiaf un pwynt.
“Fe wnes i weithio gyda fe yn Chelsea, ac mae Daniel yn chwaraewr dawnus iawn, iawn ac os gall e osgoi anafiadau a chael rhediad cyson yn y tîm, mae e gystal ymosodwr ag unrhyw un.
“Mae ganddo fe gyflymdra mawr, troed chwith dda a sgil unigol.
“Ond mae e wedi cael problemau o ran anafiadau a gobeithio na fydd e’n cael un o’i gemau gorau ddydd Sadwrn.”