Aeron Edwards
Mae’r  Seintiau Newydd mewn ffeinal arall yfory ar gampws Cyncoed yng Nghaerdydd, lle mae Met Caerdydd yn chwarae eu gemau cartref yn Uwch Gynghrair Cymru.

Fe fyddan nhw yn herio’r Barri, cyn-bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ond sydd wedi wynebu trafferthion ariannol ers hynny.

Er mai’r Seintiau Newydd yw’r ffefrynnau clir yfory, nid yw chwaraewr canol cae’r Seintiau yn cymryd y canlyniad yn ganiataol. Mae pencampwyr presennol Uwch Gynghrair Cymru yn herio’r tîm sy’n chware mewn cynghrair oddi tanyn nhw yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.

Ymunodd Aeron Edwards â’r clwb o Groesoswallt yn 2009, a llwyddiant ar ôl llwyddiant sydd wedi ei ddilyn ers iddo arwyddo.

Mae wedi ennill yr Uwch Gynghrair chwech o weithiau; wedi codi Cwpan Cymru bedair gwaith; Cwpan y Gynghrair bedair gwaith… ond yn Ewrop mae’r her fwya’ bob tymor.

Mae Aeron  Edwards yn cael tymor gwych ac wedi methu dwy gêm yn unig, a hynny drwy anaf, ac roedd yn rhan allweddol o’r tîm wnaeth ennill 27 gêm yn olynol a chreu record a fydd yn anodd iawn i’w thorri yn y dyfodol.

Edrych ymlaen

Gêm  gyfartal â’r Drenewydd ddydd Sadwrn diwethaf wnaeth stopio’r rhediad gwych, ond edrych ymlaen mae’r Seintiau rŵan.

“Roedd y rhediad a’r sylw gawson ni yn anhygoel,” meddai Aeron Edwards wrth golwg360, “ond oedd hi ddim am bara am byth. Rydan ni’n ei chymryd hi un gêm ar y tro, mae’r rheolwr yn hollol broffesiynol ac mi fyddan ni’n trin y gêm ddydd Sadwrn fel unrhyw gêm arall.

“Mi wnaethon ni chwarae Barri y tymor diwetha’, felly rydan ni’n gwybod digon amdanyn nhw, yn sicr am fod y gêm yng Nghaerdydd bydd llawer o gefnogwyr nhw yno, bydd awyrgylch da gobeithio.”

Ewrop

Mae’r Seintiau yn chwarae yn Ewrop yn gyson y dyddiau hyn, ac wedi cael dipyn o lwyddiant. Mi fyddai Aeron Edwards wrth ei fodd yn cael y cyfle i gael diwrnod arall bythgofiadwy ar y cyfandir.

“Uchafbwynt fy ngyrfa oedd chwarae yn Ewrop, profi  fy hun yn erbyn systemau a modd o chwarae gwahanol,” meddai.

Mae’r gêm yn fyw ar S4C gyda’r gic gynaf am 5.15yp.