Fe fydd dydd Sadwrn yn llawn emosiwn yng Nghyncoed, Caerdydd wrth i  glwb pêl-droed Y  Barri chwarae’r Seintiau Newydd yn ffeinal Cwpan Nathaniel MG.

Mae clwb Y Barri yn cael ei redeg gan y cefnogwyr ers 2013 ac wedi ennill llawer o ffrindiau wrth i’r clwb ei ail-sefydlu ei hun. Ar un adeg, roedd clwb Y Barri yn y newyddion oherwydd y trafferthion oddi ar y cae , ond edrych ymlaen mae’r clwb y dyddiau hyn gyda’r uchelgais o ennill dyrchafiad yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru.

Bydd dydd Sadwrn yn dipyn o her wrth iddyn nhw gwrdd â’r clwb o Groesoswallt sydd wedi creu dipyn o hanes y tymor hwn. Roedd y Seintiau wedi ennill 27 gêm yn olynol cyn cael gêm gyfartal yn erbyn Y Drenewydd ddydd Sadwrn diwetha’.

Ond yn y 1990au, Y Barri oedd y tîm yn dominyddu, gan ennill tri chwpan yn 1994 a chynrychiloi Cymru yn Ewrop.

Amser cyffrous

Mae Eric Thomas, Cadeirydd clwb pêl-droed tref Y Barri, yn falch iawn ac yn edrych ymlaen at y diwrnod mawr.

“Mae’n anrhydedd i  fod mewn ffeinal cwpan cenedlaethol,” meddai. “Mae’n amser cyffrous i’r clwb gyda’r nod o gyrraedd yr Uwch Gynghrair yn y dyfodol agos. Mae’r dref yn llawn cyffro, gydag o leia’ 500 yn teithio i’r brifddinas ar gyfer y gêm.

“Bydd yn braf i gael diwrnod i ffwrdd o gemau’r gynghrair a chael prawf o wynebu tîm o safon eithriadol – maen nhw’n haeddu bob clod. Ond, unarddeg yn erbyn unarddeg fydd hi ar y dydd, ac mi welson ni’r wythnos hon yng nghwpan yr FA bod ambell sioc yn dal i ddigwydd.

“Nid oes gobaith caneri ganddon ni ar bapur – ond nid ar bapur mae’r gêm yn cael ei chwarae,” meddai Eric Thomas wedyn.

Mae clwb Y Barri yn sicr ar ei ffordd i fyny gyda’r clwb yn nwylo’r cefnogwyr. Dim dyledion. A noddwr cefnogol. Mae’r rheolwr Gavin Chesterefiled yn hynod o broffessiynol a rhan fwyaf o’r garfan o’r ardal ac yn awyddus i weld y clwb yn llwyddo.

Mae’r gêm yn fyw ar S4C gyda’r gic gynaf am 5.15yp.