Mae clwb pêl-droed Manchester United wedi penodi swyddog gwrth-frawychiaeth, ac maen nhw’n honni mai hon yw’r swydd gynta’ o’i math yn y byd chwaraeon yng ngwledydd Prydain.

Cafodd y penodiad ei gadarnhau yn ystod fforwm i gefnogwyr yn ddiweddar, ac mae lle i gredu y bydd cyn-arolygydd Heddlu Manceinion yn ymgymryd â’r rôl.

Fe gafodd gêm olaf tymor 2015-16, Man U yn erbyn Bournemouth, ei gohirio ar ôl i fom ffug gael ei darganfod yn stadiwm Old Trafford. Sylweddolodd yr awdurdodau fod y ‘bom’ wedi cael ei gadael mewn tŷ bach yn y stadiwm yn dilyn sesiwn hyfforddi i swyddogion diogelwch.

Mewn digwyddiad arall ym mis Tachwedd y llynedd, llwyddodd dau ymwelydd i adael grŵp oedd yn cael taith o amgylch y stadiwm, ac aros yno dros nos cyn gêm yn erbyn Arsenal.

Mae diogelwch yn Old Trafford yn llym iawn yn dilyn cyflafan Paris yn 2015, ac mae ceir a chefnogwyr yn cael eu harchwilio’n awtomatig wrth giatiau’r stadiwm. Mae mwy o swyddogion diogelwch hefyd yn gweithio yn y stadiwm erbyn hyn i ymdopi â’r archwiliadau ychwanegol.