Tom Carroll (Llun oddi ar wefan Tottenham Hotspur)
Mae’r chwaraewr canol cae Tom Carroll wedi dychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe yn barhaol.

Treuliodd y chwaraewr 24 oed dymor ar fenthyg o Spurs yn Stadiwm Liberty yn 2014-15, lle chwaraeodd e mewn 18 o gemau i helpu’r Elyrch i orffen yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl dychwelyd i Spurs yn 2015-16, chwaraeodd e mewn 27 o gemau, gan sgorio tair gôl, ac mae e wedi chwarae i’r tîm yng ngogledd Llundain dair gwaith y tymor hwn.

Fe fydd e’n cael ail gyfle i weithio gyda’r is-hyfforddwr Nigel Gibbs a’r pennaeth perfformiad corfforol, Karl Halabi, dau o’i hyfforddwyr yn Spurs.

Mae e wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner, ac wedi arwyddo am ffi sydd heb ei gadarnhau, ond mae lle i gredu ei fod e wedi costio tua £4 miliwn.

Fe yw’r trydydd chwaraewr i ymuno â’r Elyrch yn ystod ffenest drosglwyddo mis Ionawr, ar ôl Luciano Narsingh a Martin Olsson.

Bydd Tom Carroll ar gael ar gyfer taith Abertawe i Lerpwl ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl iddo gael ei gynnwys yn y garfan.