Martin Olsson (Llun: swanseacity.net)
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo’r cefnwr chwith Martin Olsson o Norwich am ffi sydd heb ei chadarnhau.

Roedd yr Elyrch yn chwilio am chwaraewr ychwanegol yn y safle hwnnw ar ôl i Neil Taylor dorri asgwrn yn ei foch wrth ymarfer yn ddiweddar. Stephen Kingsley oedd yr unig gefnwr chwith oedd yn holliach ar gyfer y gêm ddiwethaf yn erbyn Arsenal.

Ond mae Martin Olsson, sydd wedi ennill 40 o gapiau dros Sweden, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner, gyda’r opsiwn o ymestyn am flwyddyn ychwanegol.

Roedd yn aelod o garfan Sweden ar gyfer cystadlaethau Ewro 2012 ac Ewro 2016.

Fe yw’r ail chwaraewr i gael ei arwyddo yn ystod ffenest drosglwyddo mis Ionawr ar ôl i’r ymosodwr o’r Iseldiroedd, Luciano Narsingh arwyddo o PSV.

Mae Martin Olsson yn hen gyfarwydd â phêl-droed yng ngwledydd Prydain ar ôl ymuno â Blackburn yn 2006, a chwarae bron i 150 o gemau i’r clwb, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn yr Uwch Gynghrair.

Fe weithiodd â phrif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement yn Blackburn hefyd.

Symudodd Martin Olsson i Norwich yn 2013, gan chwarae mewn 129 o gemau yn yr amddiffyn ac yng nghanol y cae.