Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Abertawe gyhoeddi eu bod am arwyddo dau chwaraewr newydd, sef Martin Olsson sy’n chwarae i Norwich, a Tom Carroll chwaraewr canol cae i Tottenham.

Gall y cytundebau gael eu cyhoeddi yn swyddogol heddiw a’r disgwyl yw caiff tua £4.5m ei wario ar bob chwaraewr.

Ymddangosodd Tom Carroll 13 gwaith i Abertawe yn ystod 2014-15 ar ôl cyfnod ar log i’r Elyrch ac mae rheolwr y Spurs Mauricio Pochettino yn hapus iddo symud yn ystod y pythefnos nesaf.

Er bod Tom Carroll wedi ymddangos tair gwaith yn unig yn ystod pob cystadleuaeth y tymor hwn, mae Abertawe yn hyderus mai fe fydd yr ail chwaraewr iddynt arwyddo yn Ionawr gan ddilyn Luciano Narsingh o PSV Eindhoven gynt.

Gwaelod y bwrdd

Mae’r clwb ar waelod y bwrdd yn dilyn colled 4-0 yn erbyn Arsenal ac mae rheolwr y clwb, Paul Clement, yn hollol ymwybodol bod angen newid y garfan er mwyn sicrhau bod yr Elyrch yn aros yn yr uwch gynghrair.

Mae sïon yn awgrymu bydd cyn-asgellwr Chelsea Gael Kakuta yn symud i Abertawe a bydd Wayne Routledge yn gadael stadiwm Liberty i ymuno â thîm Birmingham City.

Hefyd mae dyfodol Fernando Llorente o hyd yn destun siarad, gyda Chelsea yn ôl y sôn yn parhau i ddangos diddordeb.