Mae’r gohebydd pêl-droed Bryn Law wedi ymddiswyddo o’i rôl fel Llywydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad nos Sadwrn, dywedodd mewn datganiad nad yw e wedi’i argyhoeddi bellach mai perchnogaeth yr Ymddiriedolaeth yw’r ffordd ymlaen i’r clwb ar gyfer y dyfodol.

Ond fe ddywedodd ei fod e wedi gwneud y penderfyniad “â chalon drom”.

Dydy’r tîm ddim wedi cael tymor llwyddiannus ar y cae hyd yn hyn, ac maen nhw’n bymthegfed yn nhabl y Gyngres.

Bryn Law yw’r diweddaraf mewn rhestr gynyddol o enwau sydd wedi gadael rôl swyddogol gyda’r clwb, yn dilyn ymadawiadau’r prif weithredwr Don Bircham a’r cyfarwyddwr Barry Horne yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

‘Balchder’

Yn y datganiad, dywedodd Bryn Law ei fod yn “teimlo balchder mawr” yng ngwaith yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi “neilltuo cymaint o amser, ymdrech ac arian” i wella’r clwb ar gyfer y dyfodol.

Ond ychwanegodd fod y clwb “mewn cyflwr gwael” a bod “perfformiadau ar y cae yn brin o’r hyn y mae cefnogwyr helaeth a ffyddlon y clwb yn ei haeddu”.

Dywedodd ei fod yn ffyddiog mai cefnogwyr yw’r bobol orau i fod yn berchen ar glybiau, ond fe gwestiynodd a yw’r dull yn llwyddo yn achos Wrecsam.

“Ry’n ni gyd am gael y gorau i’r clwb ry’n ni’n ei garu gan ein bod ni’n gwybod mai rhywbeth am oes yw Wrecsam.”