Abertawe 0–4 Arsenal
Mae Abertawe ar waelod tabl Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl colli yn erbyn Arsenal ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd gôl Giroud yr ymwelwyr un ar y blaen ar yr egwyl cyn i ddwy gôl i’w rhwyd eu hunain gan chwaraewyr Abertawe ac un gan Sanchez roi gwedd gyfforddus ar y canlyniad yn yr ail hanner.
Yr Elyrch a gafodd y gorau o’r hanner awr cyntaf ac roedd angen arbediad da gan Petr Cech i atal Kyle Naughton.
Arsenal, serch hynny, a aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae toc cyn yr egwyl wedi i beniad Mesut Ozil adlamu’n garedig i lwybr Olivier Giroud oddi ar Alfie Mawson.
Roedd yr ymwelwyr o Lundain dipyn gwell wedi’r egwyl ac roeddynt ym mhellach ar y blaen wedi i ergyd Alex Iwobi gymryd gwyriad mawr oddi ar Jack Cork a heibio i Lukasz Fabianski yn y gôl.
Gôl arall gan chwaraewr Abertawe a roddodd Arsenal dair ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner, Kyle Naughton y gŵr anffodus y tro hwn.
Cwblhaodd Alexis Sanchez y sgorio’n fuan wedyn yn dilyn gwaith creu da Alex Oxlade Chamberlin.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaeth Hull yn erbyn Bournemouth yn rhoi’r Elyrch ar waelod tabl yr Uwch Gyngrhair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Kingsley, Ki Sung-yueng, Cork (McBurnie 71’), Dyer (Fer 55’), Sigurdsson, Routledge, Llorente (Baston 70’)
Cardiau Melyn: Ki Sung-yueng 43’, Fer 78’
.
Arsenal
Tîm: Cech, Gabriel, Mustafi, Koscielny, Monreal, Ramsey, Xhaka, Iwobi, Ozil (Perez 79’), Sanchez (Wellbeck 79’), Giroud (Oxlade-Chamberlain 60’)
Goliau: Giroud 37’, Cork [g.e.h.] 54’, Naughton [g.e.h.] 67’, Sanchez 73’
.
Torf: 20,875