Luciano Narsingh (Steindy GNU FDL)
Wrth arwyddo’r ymosodwr Luciano Narsingh o PSV Eindhoven yn yr Iseldiroedd, mae prif hyfforddwr Abertawe’n mynnu hefyd ei fod yn benderfynol o gadw gafael ar Gylfi Sigurdsson a Fernando Llorente.

Yr Iseldirwr yw’r chwaraewr newydd cyntaf trwy ddrws Stadiwm Liberty ers i Paul Clement gael ei benodi ac mae e wedi arwyddo cytundeb a fydd yn ei gadw yn ne Cymru am ddwy flynedd a hanner.

Yn ôl Paul Clement, mae’r clwb wedi bod yn cwrso’r ymosodwr ers cryn amser, ac mae’n dweud ei fod yn “hapus” i’r trosglwyddiad gael ei gwblhau gan ei fod e wedi wynebu’r chwaraewr yn ystod ei ddyddiau yn is-hyfforddwr Bayern Munich.

“Pan o’n i yn Bayern, fe chwaraeon ni yn erbyn PSV Eindhoven, fe chwaraeodd e a sgorio gôl ryfeddol yn y gêm yn Eindhoven. Mae e’n mynd i ddod ag elfen newydd i’r tîm. Mae gyda fe gyflymdra, ac mae e’n gallu sgorio goliau.”

Eisiau cadw’r sêr

Mae Paul Clement hefyd wedi dweud ei fod yn benderfynol i gadw ei sêr, gan gynnwys yr ymosodwr Fernando Llorente a’r chwaraewr canol cae, Gylfi Sigurdsson.

Mae sïon wedi cysylltu Fernando Llorente gyda Chelsea ond does dim cynnig ffurfiol wedi dod am y Sbaenwr, meddai Paul Clement.

Mae yna ddyfalu am Gylfi Sigurdsson hefyd oherwydd mai ef yw chwaraewr gorau Abertawe y tymor yma, ond mae Paul Clement yn dweud ei fod eisiau cadw’r ddau.

“Ry’n ni eisiau ennill gemau ac er mwyn gwneud hynny ar y lefel yma, rhaid i chi gadw’ch chwaraewyr gorau.

“Dw i wedi mwynhau gweithio gyda nhw, maen nhw’n dal i ganolbwyntio ar yr hyn mae angen i ni ei wneud yma er mwyn gwella’r tîm yma.”

Ystyried chwaraewyr eraill

Yn dilyn y newyddion fod cefnwr chwith Cymru, Neil Taylor wedi torri ei foch ar ôl cael damwain yn erbyn Wayne Routledge ar y cae ymarfer, mae’r Elyrch wedi ail-gydio yn eu diddordeb yng nghefnwr chwith Norwich, Martin Olsson.

Cadarnhaodd Paul Clement fod trafodaethau rhwng Abertawe a Norwich ar y gweill am yr amddiffynnwr o Sweden a oedd wedi denu diddordeb yr Elyrch yr adeg yma ddwy flynedd yn ôl o dan arweiniad Garry Monk.

Mae’r anaf i Neil Taylor yn golygu mai’r Albanwr Stephen Kingsley yw’r unig amddiffynnwr chwith sy’n holliach ar hyn o bryd.

Un arall sydd yn dal i ddenu diddordeb yr Elyrch yw’r chwaraewr canol cae, Tom Carroll. a dreuliodd gyfnod ar fenthyg yn Stadiwm Liberty yn 2014-15.