Claude Makelele (Llun: Wikipedia)
Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi penodi cyn-chwaraewr Chelsea a Ffrainc, Claude Makelele, yn ddirprwy i Paul Clement.

Mae’r pêl-droediwr 43 oed wedi arwyddo cytundeb tan ddiwedd y tymor, wedi iddo a’r rheolwr newydd gydweithio yn y gorffennol, fel chwaraewr yn Chelsea, a hyfforddwyr yn Paris St-Germain.

Fe chwaraeodd Claude Makelele 71 o weithiau i Ffrainc, ac roedd yn rhan allweddol o dîm Chelsea o dan Jose Mourinho.

Anaf

Mae un o amddiffynwyr yr Elyrch a Chymru, Neil Taylor wedi torri clicied yr ên. Nid oes cadarnhad eto am ba hyd y bydd i ffwrdd o’r cae.

Mae’n siwr y bydd rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn gobeithio y bydd yn holliach cyn y gêm yn Iwerddon fis Mawrth yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.